Back
Mae Dragon Taxis yn cynnig cynnydd ym mhrisiau tacsi ar ran pob gyrrwr Cerbydau Hacni

20/02/20

Gallai pris teithiau tacsi yng Nghaerdydd gynyddu pe bai cynnig Dragon Taxis yn cael ei gymeradwyo.

Caiff y newidiadau arfaethedig ym mhrisiau teithio mewn tacsi Cerbyd Hacni gyda mesurydd eu trafod gan y Cabinet yn y cyfarfod heddiw (20 Chwefror).

Mae cais Dragon Taxis i addasu'r prisiau yn cynnwys y cynigion canlynol:

  • Am 103 llath cyntaf taith, codid tâl ychwanegol o 10 ceiniog, gan godi'r gost o £2.50 i £2.60;
  • Yna codid ugain ceiniog am bob 185 llath o'r daith, yn lle 195 llath, sef y trefniant presennol.
  • Cynigir codi £1 ychwanegol ar deithiau rhwng 10pm a 6am yn hytrach nag o hanner nos tan 6am fel y drefn bresennol.

Ym mis Mawrth 2018 y cynyddwyd prisiau teithiau tacsis ddiwethaf.

Mae'r cais gan Dragon Taxis yn uwch na chyfradd y chwyddiant ers y cynnydd blaenorol, ond mae'r fasnach yn dadlau bod eu costau gweithredu dros y cyfnod hwn wedi cynyddu'n sylweddol.

Mae'r adroddiad pris tanwydd AA yn dangos bod cost diesel wedi cynyddu yng Nghymru o 122.3c y litr ym mis Mawrth 2018 i 129.7c y litr ym mis Tachwedd 2019, sy'n gynnydd o 6%

Mae petrol Octane di-blwm 95 hefyd wedi cynyddu gan 5% yn ystod yr un cyfnod, o 119.3c y litr i 125.4c y litr.

Yn ystod yr un cyfnod, mae cost trwydded cerbydau Hacni wedi cynyddu o £154 y flwyddyn i £160 ond mae'r ffi ar gyfer Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni / Llogi Preifat tair blynedd wedi gostwng o £100 i £89 sy'n ostyngiad o 11%.

Yn seiliedig ar daith dwy filltir, mae Caerdydd ar hyn o bryd yn 141fedyn nhabl cynghrair y llefydd drutaf i gael tacsi yn y DU allan o 369 o siroedd, dinasoedd a meysydd awyr.

O dan y cynnig, byddai'r prisiau newydd yn cynyddu safle Caerdydd yn y tabl cynghrair i rhwng 81feda 103ydd, a fyddai'n dal i wneud prisiau'n rhatach na dinasoedd fel Caerwysg, Swindon, Caerfaddon a Llundain.

Yn seiliedig ar y cynnig, rhwng 6am a 9.59 pm, byddai pris taith dwy filltir yn cynyddu o £6.10 i £6.40, sy'n gynnydd o 4.92%. Byddai taith pum milltir yn cynyddu o £11.50 i £12, sef cynnydd o 4.35% a byddai taith 10 milltir yn cynyddu o £20.50 i £21.60 sy'n gynnydd o 5.37%.

Oherwydd bod y tâl ychwanegol o £1 yn cael ei gyflwyno ddwy awr yn gynharach na'r trefniant presennol, byddai taith 2 filltir am 10pm, fodd bynnag, sydd ar hyn o bryd yn costio £6.10 yn codi i £7.40, sy'n gynnydd o ychydig dros 21%.

Os yw'r Cabinet yn cymeradwyo'r cynnydd hwn yn y prisiau, bydd yr amrywiad yn y tariff yn cael ei hysbysebu am 14 diwrnod er mwyn rhoi cyfle i bobl wrthwynebu. Os na ddaw gwrthwynebiadau i law, rhagwelir y byddai'r prisiau newydd yn weithredol ar 1 Ebrill.

Os daw gwrthwynebiadau i law, byddai'n rhaid i'r Cabinet eu hystyried cyn gwneud unrhyw newidiadau i'r tariffau.

Os caiff adroddiad y Cabinet ei gymeradwyo i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus, gellir cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnydd yn y prisiau yn ysgrifenedig i Adran Drwyddedu Cyngor Caerdydd, Neuadd y ddinas, Caerdydd, CF10 3ND, neu drwy e-bost, drwy   trwyddedu@caerdydd.gov.uk.