Back
Cyhoeddi enwau cystadleuwyr rownd derfynol Y Gig Fawr
06/02/20

Mae chwe seren newydd yn sin gerddoriaeth Caerdydd wedi cael eu dewis i frwydro yn erbyn ei gilydd yn rownd gynderfynol Y Gig Fawr, gerbron panel o feirniaid dylanwadol o'r diwydiant.

Ar dydd Sadwrn 15 Chwefror bydd Clwb Ifor Bach ar Stryd Womanby yn cynnal noson o gerddoriaeth yn dangos yr ystod amrywiol o dalent sydd yn y ddinas, o gerddoriaeth pync egnïol, i R&B a chanu pop arbrofol.

Gyda lle ar restr bandiau Gŵyl Sŵn 2020, ynghyd â thaleb o £100 i siop gerddoriaeth PMT ac amser recordio yn Stiwdios Music Box gyda'r cynhyrchydd chwedlonol Charlie Francis - sydd wedi gweithio gydag amrywiaeth o artistiaid, o Future of the Left, i Turin Brakes , Robyn Hitchcock, Wilco ac REM - mae ennill y Gig Fawr yn gyfle mawr i gerddorion lleol godi eu proffil.

Dyma nhw:

Aaronson:        I ddilynwyr Explosions in the Sky a Mogwai. Wedi’u henwebu ar gyfer yr Albwm Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Caerdydd, ac wedi’u dewis ddwywaith fel band gorau Gŵyl Hyb, mae’r band ôl-roc Aaronson yn creu sŵn yn rheolaidd ledled y de.

https://soundcloud.com/aaronsoncentral/june

Ailsa Tully:      Wedi ei hysbrydoli gan gerddoriaeth gorawl, gwerin ac indie, mae Ailsa Tully yn creu byd soniarus nodedig gyda'i band llawn o ferched, yn aml yn archwilio ei phrofiadau o fod yn fenyw. Mae Ailsa wedi cael sylw ar BBC Radio Wales sawl gwaith, wedi teithio'r Eidal, wedi perfformio ledled y wlad, gan gynnwys yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd a'r Ronnie Scotts chwedlonol.

https://soundcloud.com/ailsatully/highly-strung


Bloodshots:     Mae Bloodshots, y band seico-roc chwech aelod, wedi bod yn chwarae yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ers Awst 2018 mewn lleoliadau fel y Moon, y Globe, Clwb Ifor Bach a LePub. Ym mis Medi ehangodd y band eu sain, gan ychwanegu dau chwaraewr synth at yr aelodau.

https://bloodshots.bandcamp.com


Blueyute:         Mae Blueyute yn Artist R&B dinesig yng Nhaerdydd. Mae’n gysylltiedig â BBC Introducing, ac yn cynhyrchu ac yn perfformio ei gerddoriaeth eu hun gan ddefnyddio Samplwr SP-404.

                        https://soundcloud.com/blueyute/alone


Deadmethod:  Yn broject i’r canwr/cyfansoddwr caneuon Lloyd Best, mae cerddoriaeth Deadmethod yn plymio i ddyfnderoedd pop electronig tywyll, arbrofol wrth iddo archwilio rhywioldeb, homoffobia, cariad a cholled gyda gonestrwydd a dawn farddonol. Yn rhan o’r Project Forte yn 2018, cefnogodd Deadmethod Public Service Broadcasting a 65 Days of Static.

https://open.spotify.com/artist/3B3cVlhfVXbKGC5YXlmUCn?si=SGzjcsdjQuew4WwvR9SNHw


Nigel:               Mae Nigel yn fand pync egniol gyda llinellau bâs grŵfi. Yn unigryw, gyda dylanwadau gan grunge, pync a metel i indie, jas a’r blues, bu Nigel yn llenwi sioeau fel y prif fand yng nghlybiau Caerdydd ac maent wedi cefnogi bandiau fel Pizzatramp, Wonk Unit a GBH.

https://open.spotify.com/album/2LeNlniDDaLJUJRf2QLTl0?fbclid=IwAR1pVg65ztmdKtTjVcnPJehWUZ1c8Y17ErLsKwbc-Iu16kIUmIGSBrl6yNk


Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Gallai'r sylw a'r gwobrau sy'n dod gyda'r Gig Fawr wneud gwahaniaeth gwirioneddol i artistiaid ar ddechrau eu gyrfa. Ond nid dim ond cyfle gwych i gerddorion y ddinas yw'r Gig Fawr, mae hefyd yn gyfle gwych i glywed cerddoriaeth newydd.


"Mae sîn gerddorol Caerdydd yn rhan fawr o'r hyn sy'n gwneud Caerdydd yn lle mor wych i fyw ynddo. Mae llawer o greadigrwydd a llawer o dalent i'w gael – mae hynny ynghyd â sefydlu bwrdd cerddoriaeth cyntaf y ddinas yn golygu ei bod yn adeg cyffrous iawn i fod yn ymwneud â cherddoriaeth yng Nghaerdydd."


Mae tocynnau ar gyfer y noson, a gynhelir ddydd Sadwrn 15 Chwefror, yn costio £5 ac ar gael drwy: https://www.ticketweb.uk/event/the-big-gig-clwb-ifor-bach-tickets/10396815?pl=clwb&fbclid=IwAR1Y-8-B0CKXKNeGPdvd1x9jb81IDvpoVgsV4FrBrEMo_0UPYrgVUTe29I0


#DinasGerdd #YGigFawr