Back
£21m ar gyfer gwella ansawdd aer yng Nghaerdydd ar ôl i’r Gweinidog gymeradwyo cynllun terfynol

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, wedi rhoi £21 miliwn i Gyngor Caerdydd fel y gall weithredu cyfres o fesurau ar gyfer gwella ansawdd aer. Mae'r Gweinidog bellach wedi cymeradwyo cynigion diwygiedig y Cyngor ar gyfer aer glân.

Ym mis Chwefror 2018 gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gyngor Caerdydd gynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn pennu mesurau a fyddai'n mynd i'r afael cyn gynted â phosibl â'r ffaith bod lefelau'r nitrogen deuocsid yn anghyfreithlon mewn rhai ardaloedd.

Cyflwynodd Cyngor Caerdydd ei Gynllun terfynol ym mis Mehefin 2019. Roedd yn cynnig pecyn o fesurau a oedd yn cynnwys rhaglen ôl-osod bysiau er mwyn lleihau allyriadau, mesurau lliniaru ar gyfer tacsis, gwelliannau i drafnidiaeth yng nghanol y ddinas a phecyn teithio llesol a fyddai'n ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio yng nghanol y ddinas.

Cafodd y Cynllun ei asesu gan Banel Adolygu Annibynnol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ac argymhellwyd y dylai gael ei dderbyn, er bod nifer o gafeatau. 

Gofynnwyd i Gyngor Caerdydd sicrhau rhagor o eglurder o ran ai eu pecyn o fesurau fyddai'r ffordd fwyaf priodol o sicrhau cydymffurfiaeth o fewn y cyfnod byrraf posibl. Gofynnwyd am ragor o dystiolaeth a fyddai'n cyfiawnhau'r safbwynt na fyddai Parth Aer Glân yn opsiwn addas.

Ar ôl ystyried yn ofalus holl sylwadau a chyngor y Panel Adolygu Annibynnol mae'r Gweinidog wedi derbyn y cynllun terfynol diwygiedig. Mae'r Gweinidog wedi cadarnhau ei bod yn fodlon â'r opsiwn a ffefrir gan Gaerdydd o ran mesurau heb godi tâl gan mai nhw sydd fwyaf tebygol o gyflawni'r gofyniad cyfreithiol a chyflawni gostyngiad amlwg a chynaliadwy mewn allyriadau.

Ar ôl i'r Cynllun gael ei gymeradwyo bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £21 miliwn i Gyngor Caerdydd fel y gall weithredu'r mesurau gwella ansawdd aer.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Mae gwella ansawdd aer ar draws Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch i Gyngor Caerdydd am eu holl waith gydol y broses hon a'u hymroddiad a'u hymrwymiad clir i gyflawni ateb a fydd yn gwella ansawdd yr aer o fewn y ddinas.

"Byddwn yn cadarnhau yn fuan ddyfarniad cyllid a fydd yn talu costau'r opsiwn a ffefrir, a byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â Chyngor Caerdydd ar y rhaglen o weithgareddau a fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth ar frys â therfynau nitrogen deuocsid."

Ychwanegodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd ar gyfer Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth:

"Dyma newyddion gwych a fydd yn ein galluogi i fynd ati i wella ansawdd yr aer o fewn canol y ddinas, ac yn arbennig o amgylch Stryd y Castell. Mae'r arolygon yn dangos mai'r stryd hon sydd fwyaf tebygol o fynd y tu hwnt i derfynau llygredd yr UE erbyn 2021. Mae gan bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chaerdydd yr hawl i anadlu aer glân a bydd y grant hwn yn ein galluogi i gyflwyno mesurau a fydd yn lleihau llygredd.

"Mae ein tîm wedi cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni atebion a fydd yn gweithio'n gyflym yma yng Nghaerdydd. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu mewnbwn, ac mae hyn yn tystio i'r hyn y gallwn ei gyflawni wrth i ddinasoedd a llywodraethau gydweithio er budd dinasyddion. Rydym wedi achub y blaen ar y rhan fwyaf o ddinasoedd rhanbarthol mawr sy'n parhau i ddatblygu eu cynlluniau aer glân.

"Mae llygredd aer ar Stryd y Castell yn arwydd o broblem ehangach sy'n estyn y tu hwnt i'r rhan hon o ffordd. Er ein bod o fewn terfynau cyfreithiol ar draws y ddinas byddai sicrhau aer mor lân â phosibl o fudd i bawb. Byddwn yn cyhoeddi yr wythnos nesaf weledigaeth 10 mlynedd ar gyfer trafnidiaeth a fydd yn adeiladu ar y cyhoeddiad hwn, gan sicrhau dinas fwy gwyrdd ar gyfer y trigolion a chenedlaethau'r dyfodol."