Back
Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn dathlu agor Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd

Mae Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn Lecwydd wedi agor eu Canolfan Adnoddau Arbenigol, Yr Hafan, yn swyddogol.

Mae'r cyfleuster newydd yn cynnig amgylchedd dysgu cyfrwng Cymraeg cynhwysol i hyd at ddeg o blant gydag anghenion cymhleth o bob rhan o'r ddinas.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Pwll Coch\SRB\IMG_0053.JPG

Mae Yr Hafan yn cynnig dosbarth croesawgar a braf yng nghanol yr ysgol sydd wedi'i ddylunio i gynnwys llu o gyfleusterau arbenigol, gan gynnwys dysgu awyr agored, ardal gegin, ystafell newid a gofod dysgu tawel.

Mae'r cyfleuster yn galluogi disgyblion sydd â Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig i fwrw ymlaen drwy gwricwlwm eang, cytbwys a chynhwysol.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Pwll Coch\SRB\IMG_0096.JPG

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gymraeg Pwll Coch, Mr Christopher Newcombe:"Fel Pennaeth, rwy'n falch iawn o allu cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg cynhwysol i ddisgyblion ag anghenion cymhleth o bob rhan o Gaerdydd.  Rwy'n falch iawn o weld ein disgyblion yn ffynnu oherwydd ein darpariaeth ragorol sy'n canolbwyntio ar y disgybl, yn ogystal â lles, sgiliau bywyd, profiadau a chyfleoedd dysgu."

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Pwll Coch\SRB\IMG_0179.JPG
Mae gwelliannau pellach ar y gweill fydd yn cynnwys ystafell synhwyrol pwrpasol yng nghanol yr ysgol y gall bob disgybl ei defnyddio.

Mae Cyngor Caerdydd yn rhoi arian i nifer o ysgolion ledled y ddinas i gynnig Canolfannau Adnoddau Arbenigol, wedi'u staffio gan dîm bychan o athrawon arbenigol a chynorthwywyr addysgu, er mwyn cynnig cymorth dysgu cynhwysol i blant ag anghenion dysgu cymhleth. 

Mae'r awdurdod lleol yn rheoli prosesau derbyn y dosbarthiadau, drwy ddatganiad anghenion addysgol arbennig, ac mae'r canolfannau adnoddau yn cynnig lleoedd i blant o bob rhan o'r ddinas.   

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Pwll Coch\SRB\IMG_2512.JPG

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion yn gynhwysol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion dysgu cymhleth.  

"Mae'r rhan fwyaf o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn mynychu eu hysgol leol ac yn derbyn cefnogaeth ddysgu yn y dosbarth, ond i rai plant gyda'r anghenion dysgu mwyaf cymhleth, mae'n bosibl y bydd angen dull cefnogaeth arbenigol."