Caiff
Gwasanaethau Allgymorth newydd i'w wneud yn haws i breswylwyr gofrestru
genedigaethau a marwolaethau yn y ddinas ei lansio yr wythnos nesaf.
O Ddydd
Llun, Tachwedd 4, bydd cynllun peilot newydd yn galluogi preswylwyr i gofrestru
genedigaethau a marwolaethau mewn tri hyb yn y ddinas. Bydd y gwasanaeth ar
gael ar ddydd Llun yn Hyb y Tyllgoed, ar ddydd Mawrth yn Hyb Ystum Taf a
Gabalfa ac ar Ddydd Iau yn Hyb Llaneirwg.
Caiff tua
5,500 o enedigaethau a 3,000 o farwolaethau eu cofrestru yng Nghaerdydd bob
blwyddyn a gwneir cofrestriadau ar hyn o bryd yn Neuadd y Ddinas, a gwneir
nifer fach bob wythnos yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Gall y ddau leoliad hwn fod
yn anodd mynd atynt weithiau, gyda phroblemau parcio neu deithiau hir ar
drafnidiaeth gyhoeddus i bobl sy'n byw mewn cymunedau ar ymylon y ddinas.
Mae'n rhaid
cofrestru genedigaethau newydd o fewn 42 diwrnod ac mae'n rhaid cofrestru
marwolaeth o fewn 5 diwrnod. Mae'n rhaid cofrestru yn bersonol gyda
Chofrestrydd ac ni ellir ei wneud ar-lein.
Mae
cofrestru am ddim ac yn cymryd tua 30 munud. Pan fyddwch wedi cofrestru,
gallwch brynu tystysgrif am ffi o £11. Mae trefnu apwyntiad yn hanfodol a gellir
ei wneud trwyffonio 029 2087 1680/4 neu e-bostio cofrestryddion@caerdydd.gov.uk.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae hon yn fenter gadarnhaol iawn, a'r gobaith yw y bydd yn
sicrhau bod cofrestru genedigaethau a marwolaethau ychydig yn haws i
bobl. Rydym yn gobeithio y bydd preswylwyr yn cael budd o gael y
gwasanaethau cofrestru hyn ar gael yn lleol yn eu cymunedau. Os bydd y cynllun
peilot yn llwyddiannus, byddwn yn ystyried ymestyn y cynllun i hybiau eraill o
gwmpas y ddinas."
"Rydym yn gobeithio y bydd mwy o bobl bellach yn ymweld â'n hybiau ac y bydd effaith gadarnhaol ar y gwasanaethau rydym yn eu cynnig yno. Bydd mamau a thadau newydd hyd yn oed yn gallu cofrestru eu babanod gyda'n gwasanaeth llyfrgelloedd cyn iddynt adael yr hyb, siarad â'n tîm cyngor ariannol am fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt o bosibl, a llawer mwy."