Back
Prynu cartrefi i fwrw targed datblygu uchelgeisiol


Mae cynlluniau i gynnig tua 160 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn y ddinas trwy eu prynu yn y farchnad agored wrthi'n mynd rhagddynt, fel rhan o nod y Cyngor o sicrhau 1,000 o gartrefi cyngor newydd erbyn 2022.

 

Yn ôl adroddiad y disgwylir iddo gael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Cabinet ar 26 Medi, mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd da tuag at fwrw'r targed hwn o brynu 160 eiddo, gyda 44 o gartrefi wedi'u prynu er 2017 a 11 o gynigion eraill yn aros i gael eu cwblhau.

 

Ar hyn o bryd mae galw uchel ym mhob rhan o'r ddinas am gartrefi dwy, tai a phedair ystafell wely i deuluoedd a fflatiau hygyrch, ond nid oes llawer ar gael. Ar hyn o bryd mae mwy na 7,700 o ymgeiswyr ar restr aros tai y Cyngor, ond y llynedd, dim ond 1,500 o eiddo ddaeth ar gael i'w gosod.

 

Mae'r Cyngor yn prynu cartrefi yn y farchnad eiddo preswyl i helpu i gyflawni ei uchelgais o sicrhau 1,000 o gartrefi fforddiadwy newydd erbyn 2022, a chyfanswm o 2,000 o gartrefi newydd yn y blynyddoedd canlynol. Mae dulliau cyflawni eraill yn cynnwys cynllun Cartrefi Caerdydd gyda Wates Residential, pecynnau arbennig a rhaglen adeiladu cartrefi ychwanegol y Cyngor ei hun.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rydyn ni'n bwrw ati i fanteisio ar gyfleoedd i brynu eiddo oddi ar y farchnad agored wrth i ni weithio tuag at adeiladu mwy o gartrefi i ateb y galw sy'n cynyddu yn y ddinas. Gan amlaf, hen gartrefi Cyngor yw'r rhain ond gallwn ni hefyd ystyried prynu cartrefi eraill os ydyn nhw'n briodol er mwyn ateb y galw.

 

"Rydyn ni'n gwneud cynnydd da iawn gyda'r cynllun prynu'n ôl sydd, ynghyd â'n dulliau cyflawni eraill, yn rhoi hwb sylweddol i nifer y tai fforddiadwy o ansawdd sydd ar gael yng Nghaerdydd."

 

Argymhellir bod y Cabinet yn cymeradwyo dirprwyo awdurdod ar gyfer prynu eiddo preswyl i Gyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau ar 26 Medi.