Back
Cartref Cŵn Caerdydd yn ennill dwy wobr RSPCA
Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi ennill dwy o wobrau PawPrints yr RSPCA.Mae’r gwobrau, oedd yn arfer cael eu galw yn gynllun Ôl-Troed Lles Anifeiliaid Cymunedol (CAWF), yn dathlu arfer da o ran lles anifeiliaid drwy wobrwyo sefydliadau sy'n mynd y tu hwnt i'r gofynion gwasanaeth sylfaenol a statudol.

Eleni, mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi cadw ei ddyfarniad Aur yn y categori Cŵn Strae ynghyd ag ennill gwobr Arian yn y categori Cŵn mewn Cytiau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:“Mae tîm Cartref Cŵn Caerdydd yn cynnal gwasanaeth cyhoeddus pwysig iawn, ac mae'r gwobrau hyn yn deyrnged i'w hymroddiad a'u gwaith caled.

“Rwy’n deall fod Cartref Cŵn Caerdydd wedi ennill un o’r gwobrau hyn bob blwyddyn ers 2008, a phump ohonynt yn rhai aur – mae hynny’n wych, ond mae ennill gwobrau mewn dau gategori yn ystod yr un flwyddyn yn llwyddiant ysgubol ac yn arddangos ymrwymiad y tîm i gynnig y lefel uchaf posibl o ofal i'r holl gŵn y maent yn gofalu amdanynt."

Dywedodd Ymgynghorydd Materion Cyhoeddus yr RSPCA, Lewis Clark: “Mae RSPCA Cymru yn falch iawn bod Cartref Cŵn Caerdydd unwaith eto wedi cael ei gydnabod yn ein cynllun unigryw, PawPrints.

“Maent wedi dangos ymrwymiad cyson i les cŵn; rhywbeth sydd wedi’i amlygu gan eu hymrwymiad i’r ffordd y maent yn gofalu am gŵn strae, a safon y cytiau sydd ar gael iddynt.

“PawPrints yw’r unig gynllun sy’n cydnabod cyrff cyhoeddus sy’n mynd y tu hwnt i’r gofyn er lles anifeiliaid.Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno gwobrau i Gyngor Caerdydd, a chyrff cyhoeddus eraill ledled Cymru, mewn seremoni arbennig yn ddiweddarach yn y mis.”

Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno’n ffurfiol mewn seremoni yn y Senedd ddydd Llun 23 Medi 2019.