Back
Tîm Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn cyrraedd rownd derfynol dwy wobr
Mae tîm Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn dwy wobr genedlaethol o fri. 

Mae gan Amlosgfa a Mynwent Draenen Pen-y-graig siawns i ennill gwobr Mynwent y Flwyddyn yn dilyn cyrraedd y rownd derfynol gydag un o'r sgoriau uchaf yn y categori tiroedd Claddu Mawr.  Mae’r tîm yn Nraenen Pen-y-graig wedi ennill y wobr hon o’r blaen, yn 2016.

Yn dilyn proses ddethol drylwyr, mae’r tîm Gwasanaethau Profedigaeth hefyd wedi cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Gwasanaeth APSE (Association for Public Service Excellence), a'u henwebu ar gyfer gwobr Tîm Gwasanaeth Gorau’r Flwyddyn – categori Mynwentydd ac Amlosgfeydd.

Mae’r gwobrau APSE blynyddol yn dathlu’r gorau yng ngwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol ledled y DU.Y tro olaf i’r tîm Gwasanaethau Profedigaeth ennill y categori hwn oedd yn 2016.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael,“Rydw i’n gwybod bod y tîm Gwasanaethau Profedigaeth yn ymfalchïo yn y gwaith o gynnig y gwasanaeth gorau posibl ar adeg anhygoel o anodd ym mywydau pobl ac mae'r ddau enwebiad yn gydnabyddiaeth haeddiannol o'u hymrwymiad a gwaith caled.

“Hoffwn ddiolch i’r tîm cyfan a dymuno lwc dda iddynt pan gaiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn.”