Back
Chwifio’r Faner dros Ddur y DU

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi llofnodi Siarter Ddur y DU yn arddangos ei gefnogaeth i ddur sy'n cael ei gynhyrchu yn y DU.

 

Golyga'r ymrwymiad hwn y bydd y Cyngor yn gosod camau ymarferol y bydd yn eu cymryd i fanteisio ar y cyfleoedd i gynhyrchwyr dur y DU o ran caffaeliaid adeiladu a seilwaith ac wrth wneud hynny, i helpu i ddiogelu swyddi yn y diwydiant yn y DU gan gynnwys miloedd yn ne Cymru.

 

Nodau'r Siarter yw:

  • Helpu i sicrhau'r budd economaidd gorau posibl i economi'r DU. Datgloi'r buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd a ddaw yn sgil cadwyni cyflenwi byr a lleol.
  • Hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o ddur a gynhyrchwyd yn y DU mewn projectau adeiladu a seilwaith
  • Cefnogi swyddi manwerthu sgilgar â chyflog uchel a chyfleoedd hyfforddiant mewn cymunedau ledled y DU.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:"Mae creu dur yn rhan bwysig o economi Prydain, ond does dim dwywaith bod y diwydiant yn wynebu heriau, gan gynnwys y ffaith bod dros hanner y dur a ddefnyddir ar brojectau adeiladu a seilwaith yn y DU yn cael ei fewnforio..

 

"Mae Celsa UK yn un o brif gyflogwyr Caerdydd, yn cefnogi bron 3,500 o swyddi ledled de Cymru felly mae'n gwneud synnwyr bod y Cyngor hwn wedi ymrwymo i fesurau sy'n gwaredu unrhyw heriau i gyflenwyr y DU yn gallu cystadlu'n llwyddiannus am gontractau gyda ni."

 

Dywedodd Gareth Stace, Cyfarwyddwr Cyffredinol UK Steel:"Mae Cynghorau wrth wraidd eu cymunedau lleol ac maent yn gwybod effaith sylweddol eu pŵer prynu ar swyddi lleol a'r economi leol, yn ogystal â'r effaith ehangach ar wledydd y DU. Drwy lofnodi'r Siarter hwn, mae Cyngor Caerdydd yn cefnogi diwydiant sy'n cyflogi mwy na 30,000 o bobl yn uniongyrchol ac sy'n cefnogi 52,000 o swyddi eraill yn anuniongyrchol mewn cymunedau ledled y DU. At hynny, mae'r diwydiant dur yn gwneud cyfraniad uniongyrchol o £1.7 biliwn i economi'r DU, gyda chyfraniad pellach o £3.9 biliwn drwy'r busnesau rydym yn eu cefnogi yn ein cadwyni cyflenwi a chymunedau lleol. Mae gan ddur rôl bwysig i'w chwarae yn atgyfnerthu cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu yn y DU, ac rydym yn falch o gael Cyngor Caerdydd yn bartneriaid i ni."

Llofnododd y Cyngor rhagflaenydd Siarter Ddur y DU, Siarter Ddur Gynaliadwy Brydeinig ym mis Hydref 2015, oedd yn canolbwyntio ar waharddiadau dur tynnach ar ôl i farchnad y DU gael ei llenwi gan gynnyrch nad oedd yn cydymffurfio â Safonau Prydeinig oedd yn arwain at broblemau diogelwch difrifol.Mae Siarter 2019 wedi'i hehangu i gynnwys yr holl gynnyrch dur a grëir gan fanwerthwyr y DU i'w ddefnyddio mewn projectau adeiladu a seilwaith.

 

Drwy lofnodi'r siarter, mae'r Cyngor wedi addo i ddefnyddio ei egwyddorion ar bob project adeiladu lle mae dur yn rhan o'r fanyleb ac yn nodi defnydd cynnyrch dur sydd â Safon BRE BES6001 (neu gyfwerth).Mae pencampwr cadwyn cyflenwi'r DU ar waith eisoes yn nhîm caffael yr awdurdod i reoli'r ymgysylltiad â'r sector dur a chyflenwyr eraill.

 

Heblaw am fuddion economaidd a ddaw yn sgil defnyddio dur a gynhyrchwyd yn y DU, bydd y buddion amgylcheddol hefyd yn cynnwys lleihau allyriadau carbon trafnidiaeth drwy ddod o hyd i gynnyrch lleol, tra bod ailfar dur y DU yn cael ei wneud yn llwyr o gynnwys wedi'i ailgylchu ac mae bron 40% yn is o ran carbon na'r rhai a grëir mewn lleoedd eraill yn yr UE.

 

Mae llofnodi'r Siarter hefyd yn cefnogi egwyddorion Polisi Caffael Cymdeithasol-Gyfrifol y Cyngor, gan gynnwys Meddwl am Gaerdydd yn Gyntaf, Partneriaid mewn Cymunedau a Gwyrdd a Chynaliadwy.