Bydd Cymru'n herio Lloegr ddydd Sadwrn 17 Awst fel rhan o Gyfres yr Haf a'r Hydref.
Gyda'r gic gyntaf am 2.15pm, bydd ffyrdd ar gau'n llwyr yng nghanol y ddinas o 10.45am tan 5.15pm i ddiogelu'r cyhoedd.
Cynghorir y sawl fydd yn mynychu'r gêm i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau sydd wedi'u gwahardd ynprincipalitystadium.walescyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas, am 1.45am.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy'r dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio i'r digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Sylwer:
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd ger Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.
Trenau
Mae Network Rail am roi gwybod i gwsmeriaid nad oes unrhyw waith peirianneg wedi'i gynllunio ar gyfer y digwyddiad hwn.
Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw yn www.nationalrail.co.uk neu drwy ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwybod i'r holl gwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd. Cynghorir y sawl sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r gêm adael digon o amser ar gyfer eu taith.
Bydd system rheoli torfeydd lawn ar waith yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd holl wasanaethau'r Cymoedd yn gadael o gefn yr orsaf ym maes parcio Heol Penarth. Bydd capasiti ychwanegol ar wasanaethau lle y bo'n bosibl ond bydd y gwasanaethau'n gyfyngedig iawn oherwydd amser gorffen y gêm.
Bydd Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 4.15pm i gwsmeriaid sy'n gadael y ddinas a bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng ngorsaf Caerdydd Canolog. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch iwww.tfwrail.wales/events
Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Pris: £12 os cadwch le ymlaen llaw yma:https://zeelo.co/rides?q=wales%20v%20england
neu £15 i'w dalu ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig).
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)
Pris: £25 ar y dydd neu £25 os cadwch le o flaen llaw:https://zeelo.co/rides?q=wales%20v%20england
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad yn Lecwydd
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i'r safle.
I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i -https://zeelo.co/rides?q=wales%20v%20england
Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle. Y man gollwng yw Fitzhamon Embankment.
Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.
Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am, gyda'r safle yn agor am 9.00am a'r bws cyntaf yn gadael am 9.30am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 9.30pm a bydd y maes parcio'n cau am 10.00pm.
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Pris: £15 i'w dalu ar y diwrnod yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 6pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Hoffai Bws Caerdydd roi gwybod i gwsmeriaid y bydd gwasanaethau canol y ddinas yn rhedeg o leoliadau gwahanol o 10.45am i 5.30pm.Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin.
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Traffyrdd a chefnffyrdd
Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a'r ffyrdd sy'n arwain i Gaerdydd fod yn brysur iawn.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall pobl sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP (Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 10.45am ac yn ailagor am 5.15pm.