Ymunodd Steve Border â thîm rheoli gwastraff Caerdydd fel casglwr gwastraff ar 8 Ionawr 1973.
Yn gweithio i'r Cyngor ers pan oedd yn 17 oed, bu Steve gyda'r Cyngor am 46 o flynyddoedd. Bu farw yn sgil gwaeledd byr ar 24 Gorffennaf eleni.
Roedd Steve yn aelod hynod boblogaidd o dîm Lamby Way, ac er iddo ymddeol yn rhannol yn 2018, parhaodd i weithio am dridiau o'r wythnos i'r cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Yn gyntaf, hoffwn gydymdeimlo â'r teulu a diolch iddyn nhw am gefnogi'r deyrnged hon i Steve.
"Nôl ym 1973, pan ddechreuodd Steve gyda'r Cyngor, roedd y diwydiant rheoli gwastraff yn fusnes gwahanol iawn. Yn y 70au cynnar, roedd mwyafrif gwastraff y DU yn cael ei gladdu ac yn mynd yn angof, ac arweiniodd hyn at nifer o drychinebau amgylcheddol ledled y wlad.
"Arweiniodd hyn at ddeddfau newydd yn cael eu cyflwyno i ddiogelu'r amgylchedd, gyda'r Ddeddf Rheoli Llygredd yn dod i rym yn y DU ym 1974.
"Yn ystod bywyd gwaith Steve, amcangyfrifir ei fod wedi casglu 65,000 o dunelli o wastraff, a'i fod wedi cerdded dros 100,000 o filltiroedd ar strydoedd Caerdydd a gweld newidiadau enfawr yn natur dechnolegol cerbydau gwastraff.
"Prin iawn oedd y gwaith a gollodd oherwydd salwch, ac roedd rhaid dweud wrth Steve i gymryd y gwyliau blynyddol roedd ganddo hawl iddynt. Yn aml iawn, bu'n rhaid iddo gymryd ei wyliau i gyd ym mis Mawrth gan nad oedd e wedi cymryd gwyliau gweddill y flwyddyn."
"Roedd awydd Steve i weithio, a'i ymroddiad at ei waith dros y blynyddoedd, yn brawf o'i ymroddiad i'r ddinas, bydd pawb oedd yn ei nabod a phawb a weithiodd gydag e dros y blynyddoedd yn gweld ei eisiau'n ofnadwy."