Back
Dechrau gwaith gwerth £300,000 i adnewyddu capeli yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig
Mae rhaglen o waith gwerth £300,000 i uwchraddio ac adnewyddu’r capeli yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig yn dechrau ar ddiwedd y mis.

Mae’r rhaglen wella chwe wythnos, fydd rhwng 29 a 8 Medi 2019, yn cynnwys:

·         Cwblhau'r gwaith o ailaddurno’r ddau gapel.

·         Ailfodelu capel mwy y Wenallt.

·         Adnewyddu’r ystafelloedd aros.

·         Adnewyddu ac ymestyn yr ardaloedd wedi'u gorchuddio y tu allan i'r capeli.

·         Lloriau newydd.

·         Seddi newydd.

·         Cataffalc (platfform dyrchafedig a ddefnyddir i gefnogi'r coffin) newydd.

Er mwyn cwblhau'r gwelliannau hyn mor gyflym â phosibl caiff y ddau gapel eu cau tra bod y gwaith yn cael ei wneud.

Tra bo'r capeli'n cael eu hadnewyddu caiff gwasanaethau eu cynnal mewn capel proffesiynol dros dro yn nhiroedd yr amlosgfa neu yn y capel ym Mynwent Cathays.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael:“Bydd ein buddsoddiad mewn moderneiddio’r cyfleusterau’n golygu y gall y galarwyr ffarwelio eu hanwyliaid am y tro olaf mewn amgylchoedd sy'n fwy cydymdeimladol â’r achlysur.

“Bob blwyddyn mae bron i 3000 o angladdau’n digwydd yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig.Felly mae llawer o bobl yn mynd trwy amser eithriadol anodd ac emosiynol yn ein capeli.Rydyn ni am wneud popeth y gallwn ni i wneud eu profiad, a phrofiad y rhai sydd wedi marw, mor urddasol â phosibl a bydd y gwaith uwchraddio'n helpu i wneud hyn yn bosibl."

Mae opsiwn syth i’r amlosgfa ar gael hefyd, lle y gall gwasanaeth gael ei gynnal mewn eglwys leol, capel gorffwys neu, os oes gwell, nid oes gwasanaeth ac mae cyfarwyddwr yr angladd yn mynd â'r rhai sydd wedi marw i'r amlosgfa i gael eu hamlosgi, heb unrhyw aelodau o deulu yno. Os dewisir hyn, gellir wedyn gynnal gwasanaeth coffa yn y capeli ar ôl iddynt ailagor ym mis Medi.