Back
Gorchymyn i berchennog siop gludfwyd dalu dros £7,000 am droseddau’n ymwneud â hylendid bwyd

Daethpwyd o hyd i faw llygod bach a mawr yn ogystal â chasgliad o weddillion bwyd a braster yn Sicilian Pizza ar Heol Ddwyreiniol y Bont-Faen ar ôl cynnal archwiliad yn y busnes.

Ymddangosodd Noor Mohammed Noor, perchennog Sicilian Pizza, gerbron Llys yr Ynadon ddydd Gwener diwethaf (12 Gorffennaf) i dderbyn ei ddedfryd ar ôl pledio'n euog i bedair trosedd. Cafodd dirwy o £4,800 a gorchymyn i dalu costau o £2,217 yn ogystal â gordal dioddefwyr o £120.

Daeth yr achos i law ar ôl archwiliad arferol gan swyddogion y Cyngor a ddaeth o hyd i nifer sylweddol o faw llygod bach a mawr nad oedd wedi cael eu rheoli am o leiaf 6 mis.

Mewn ymgais i liniaru'r ddedfryd dywedodd cynrychiolydd cyfreithiol Mr Noor wrth y Llys fod Mr Noor wedi ‘gorffwys ar ei rwyfau' ar ôl dod yn unig fasnachwr y busnes. Derbyniodd nad oedd wedi cynnal hyfforddiant staff, ond ei fod wedi glanhau'r eiddo i raddau helaeth ers yr ymweliad gan sicrhau bod ei holl staff wedi cael hyfforddiant. Roedd wedi cyflogi Europest hefyd er mwyn delio â'r pla cnofilod.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Maen nhw'n dweud bod darlun yn cyfleu mil o eiriau, ac yn yr achos hwn, mae'r lluniau'n sicr yn gwneud hynny. Diolch byth, penderfynodd y perchennog gau'r busnes o'i wirfodd ar ôl cael sgôr o sero. Hoffwn atgoffa pob busnes bwyd yng Nghaerdydd y byddwn yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y rhai sy'n mynd yn groes i'r ddeddfwriaeth. Mae'r ddeddfwriaeth mewn grym am reswm - a hynny i ddiogelu'r cyhoedd.

Ar ôl i Mr Noor gynnal gwaith adferol yn Sicilian Pizza, aeth swyddogion o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i ailymweld â'r safle ym mis Medi 2018 a arweiniodd at sgôr hylendid bwyd o 4.