Back
12 Baner Werdd i barciau a mannau gwyrdd Caerdydd
Bydd Baneri Gwyrdd yn chwifio uwchben parciau a mannau gwyrdd trawiadol Caerdydd ar ôl i Cadwch Gymru'n Daclus gyhoeddi heddiw bod deuddeg o barciau’r ddinas wedi ennill y Wobr Baner Werdd fawr ei bri.

Mae Parc Bute, Morglawdd Bae Caerdydd, Gwlyptiroedd Bae Caerdydd, Mynwent Cathays, Ynys Echni, Gerddi'r Faenor, Parc y Mynydd Bychan, Parc Cefn Onn, Parc y Rhath, Gerddi Bryn Rhymni, Mynwent Draenen Pen-y-graig a Pharc Victoria oll wedi llwyddo i gadw'r marc ansawdd rhyngwladol hwn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:“Gwyddom pa mor bwysig yw parciau i ddinasyddion Caerdydd ac mae’r newyddion ein bod wedi llwyddo i ennill statws y Faner Werdd mewn deuddeg o’n parciau’n dangos ein hymrwymiad i wneud cymaint â phosibl i'w cadw'n wych yn wyneb toriadau i gyllidebau’r awdurdod lleol.

 “Rhaid tynnu sylw at y cyfraniad y mae’r Grwpiau Cyfeillion a gwirfoddolwyr yn ei wneud at barciau’r ddinas, ar y cyd â'n staff ymroddedig yn y Cyngor, a hoffwn ddiolch iddynt am eu holl amser ac ymrwymiad.Dylent fod yn falch iawn o’u llwyddiant.

"Mae cymaint i ddwlu arno ynghylch parciau Caerdydd ac rydw i wir yn annog pawb i fynd allan a gwneud y gorau ohonynt yr haf hwn.”

Daw’r cyhoeddiad hwn yn ystod yr Wythnos Caru Parciau (12-21 Gorffennaf) flynyddol sy’n cael ei threfnu am y 13eg flwyddyn gan Cadwch Brydain yn Daclus, pan ddaw pobl ledled y wlad ynghyd i ddathlu parciau a dangos i’r byd bod parciau’n bwysig iddynt.

Mae 221 o barciau a mannau gwyrdd wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i ennill y Wobr Baner Werdd a’r Wobr Cymuned Baner Werdd.

Caiff y rhaglen ddyfarnu ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Mae’n cael ei dyfarnu gan arbenigwyr ar fannau gwyrdd sy’n gwirfoddoli eu hamser i ymweld â safleoedd sydd wedi gwneud cais gan eu hasesu yn erbyn wyth o feini prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chynnwys y gymuned.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd yn Cadwch Gymru'n Daclus:“Mae rhaglen y Wobr Baner Werdd yn parhau i fynd o nerth i nerth yng Nghymru, diolch i ymrwymiad a brwdfrydedd staff a gwirfoddolwyr ledled y wlad.

“Rhaid pwysleisio pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd da i'n cymunedau, i'n hiechyd a'n llesiant, i natur ac i'r economi.Hoffwn annog pawb i grwydro eu hardal leol a gwneud y gorau o’r safleoedd arobryn hyn sydd ar eu stepen drws.”

Gellir gweld rhestr lawn o’r enillwyr ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus https://www.keepwalestidy.cymru/cy