Back
Cymorth i brosiect rheilffordd Llantrisant i Gaerdydd yn rhan o’r cynllun Metro

Mae arweinwyr cynghorau Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd wedi ymuno ag Aelod Cynulliad Gorllewin Caerdydd, Mark Drakeford a Mick Antoniw, Aelod Cynulliad Pontypridd, ar gynllun sy'n golygu bod y rheilffordd segur o Lantrisant i Gaerdydd yn cael ei defnyddio unwaith eto fel rhan o Fetro De Cymru.

Bydd astudiaeth £135,000 yn cael ei chomisiynu a'i chwblhau dros y pedwar mis nesaf, a fydd yn sail i achos busnes amlinellol strategol. Efallai bydd hyn yn golygu y bydd tua deuddeg milltir o reilffyrdd segur yn cael eu defnyddio i ddarparu coridor trafnidiaeth gyhoeddus o Bont-y-clun i Gaerdydd, gan deithio trwy Donysguboriau, Llantrisant a Chreigiau gyda photensial am gyswllt â'r Beddau. Os bydd y prosiect yn cael ei gymeradwyo, bydd yn arwain at greu dewis amgen i deithio sy'n ecogyfeillgar a chynaliadwy i'r rhwydwaith ffyrdd sydd dan bwysau cynyddol.

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd arweinydd Rhondda Cynon Taf,  y  Cynghorydd Andrew Morgan: "Mae gan y datblygiad yma'r potensial i gael effaith drawsnewidiol ar opsiynau trafnidiaeth i ganol Taf Elái ac oddi yno wrth ddarparu llwybr trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol i Gaerdydd, a fydd yn bodloni'r galw sylweddol sy'n bodoli yn yr ardal ar hyn o bryd gyda nifer y trigolion sy'n cymudo i'r ddinas i weithio. Yn ogystal, mae gan y prosiect y potensial i weithredu fel catalydd ar gyfer twf yn ardal Tonysguboriau a Llantrisant, a fydd yn dod yn ganolbwynt ar gyfer gweithgarwch economaidd sy'n cyfateb i'w statws fel Ardal Cyfle Strategol yng Nghynllun Gofodol Cymru. Bydd yn helpu i ddenu swyddi i'r ardal ac yn cynnig opsiynau cynaliadwy i gyrraedd y swyddi hynny.

"Bydd Rhondda Cynon Taf yn un o brif fuddiolwyr prosiect Metro De Cymru ar ôl iddo gael ei gwblhau ac rwy'n falch o weld y gefnogaeth ar gyfer y cynllun yma, a fydd efallai o fudd mewn cam yn y dyfodol o adeiladu rhwydwaith Metro De Cymru. Bydd y Metro'n gwella trenau'n sylweddol, yn sicrhau gwasanaethau mwy effeithlon ac yn cynnig nifer fwy o siwrneiau, a dydy hyn ddim llai nag y mae ein cymunedau yn ei haeddu. Mae gwella ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd i'r Cyngor, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau cyfagos i sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflawni. "

 Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y  Cynghorydd Huw  Thomas: "Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw injan economaidd y wlad, gyda Chaerdydd yn unig yn creu 20,000 o swyddi newydd y llynedd ar gyfer economi Cymru. Fodd bynnag, mae ffyniant yn y dyfodol yn dibynnu ar seilwaith trafnidiaeth effeithiol i gysylltu pobl â'r cyfleoedd sy'n cael eu creu ar draws y rhanbarth.

"Mae modd i'r Metro, ynghyd â'n gweledigaeth trafnidiaeth £1 biliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Caerdydd, ailffurfio'r seilwaith trafnidiaeth ar gyfer y rhanbarth cyfan yn y bôn."

Gan roi ei sylwadau ar y cynllun, dywedodd  Mark Drakeford AC : "Wrth i'n dinas ni dyfu, bydd y prosiect yma'n cynnig ffordd lân, effeithlon a modern o gymudo i Gaerdydd i drigolion, gan leihau effaith defnyddio ffyrdd ar yr amgylchedd a gwella lles pobl. Byddai'n gwasanaethu'r datblygiadau newydd yng ngogledd-orllewin Caerdydd, cymunedau presennol mewn mannau fel y Tyllgoed a Threganna, yn ogystal â phobl sy'n teithio i Gaerdydd o Rondda Cynon Taf. Rydw i bob amser wedi dadlau dylai twf yn y boblogaeth yng Ngorllewin Caerdydd ddim bod yn fwy na'r seilwaith sy'n angenrheidiol. Rwy'n benderfynol y bydd y seilwaith trafnidiaeth gorau posibl yn rhan ganolog o'r broses barhaus o weddnewid ein Dinas a rhanbarth ehangach De Cymru, a dyna pam rwy'n cefnogi'r cynllun uchelgeisiol a hynod gyffrous yma. "

Dywedodd  Mick Antoniw AC : "Rydw i wedi bod yn ymgyrchu ers amser maith i Daf Elái fod yn rhan o brosiect y Metro ac mae'n newyddion gwych bod y cam pwysig cyntaf yma bellach ar y gweill. Mae gan y Metro'r potensial i chwyldroi darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a dyma fyddai'r buddsoddiad mwyaf sylweddol yn y seilwaith yn y rhan yma o Daf Elái ers agor ffordd osgoi Pentre'r Eglwys.  Os ydyn ni am berswadio pobl i beidio â defnyddio'u ceir, mae rhaid i ni gynnig dewis amgen diogel, dibynadwy a chynaliadwy. Bydd llinell Metro uniongyrchol o Lantrisant i Gaerdydd yn darparu hyn i gyd, tra bydd hefyd yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. "

Mae cam cychwynnol y gwaith yn cael ei gomisiynu trwy gwmni Trafnidiaeth Cymrugan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar ran RhCT, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru - y mae pob un o'r sefydliadau yma'n cyfrannu at y costau. Bydd yr ymgynghorwyr Mott MacDonald yn gwneud y gwaith a byddan nhw'n nodi rhestr fer o ddatrysiadau trafnidiaeth gyhoeddus, a allai gynnwys opsiynau rheilffordd ysgafn a bws cyflym, erbyn mis Hydref 2019.