Back
Proses dendr i adeiladu a gweithredu’r Arena Dan Do ar fin dechrau

Mae cynlluniau ar gyfer arena dan do newydd ym Mae Caerdydd wedi cael hwb arall yn sgil newyddion bod Cabinet y Cyngor wedi cytuno i fynd allan i dendr i ddatblygwr i adeiladu a gweithredu arena newydd.

Datgela adroddiad i'r Cabinet y bydd achos busnes terfynol ar gyfer yr arena gyda 15,000 o seddi yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd 2019, gyda chaniatâd cynllunio o bosibl wedi'i gyflwyno erbyn 2020, gan olygu y gallai'r lleoliad newydd fod ar agor erbyn mis Rhagfyr 2023.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygiad, y Cyng Russell Goodway:"Rydym am ailfywiogi Bae Caerdydd gan roi hwb i'w broffil fel cyrchfan sy'n seiliedig ar hamdden.Gall arena amlbwrpas newydd helpu ni i gyflawni hynny, gan ddod â phrif atyniad mawr newydd i ymwelwyr a phreswylwyr allu ei fwynhau."

Dywedodd y Cynghorydd Goodway:"Gan fod y diwydrwydd dyladwy cychwynnol a phrofion y farchnad wedi'u cyflawni, rydym yn barod i ddechrau'r broses ffurfiol o sicrhau partner cyflawni."