Back
Cynigion ad-drefnu Ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn Sblot a Thremorfa

Mae adroddiad sy’n argymell cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ad-drefnu a buddsoddi yn narpariaeth blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd ac uwchradd i wasanaethu’r Sblot a Thremorfa, wedi’i gytuno gan Gabinet yr awdurdod lleol. 

Byddai'r gwaith ad-drefnu yn rhan o gynigion Band B y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac mae'n dilyn cyfarwyddid a gafwyd gan yr Archesgobaeth Gatholig i edrych ar y posibilrwydd i gau Ysgol Gynradd Gatholig St Albans.

Byddai'r cynlluniau arfaethedig yn cynnwys:

-    Ehangu ac adleoli Ysgol Uwchradd Willows, dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £284 milwn a gyflawnir gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

-    Troi Ysgol Feithrin Tremorfa yn ganolfan plant integredig. Byddai'n parhau i fod yn ysgol ar wahân sy'n cynnig addysg feithrin i blant 3-4 oed a gydnabuwyd am ei hansawdd ragorol, ond gyda niferoedd wedi eu cynyddu i 128 o ddisgyblion. 

-     Byddai safle Meithrinfa Tremorfa hefyd yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau gan gynnwys gofal plant a chymorth i rieni gan Dechrau'n Deg, a gaiff ei gynnig ar hyn o bryd ar safle presennol Ysgol Willows.

-     Ehangu Ysgol Gynradd Baden Powell yn dri dosbarth derbyn, yn cynnig 630 o leoedd i blant 4-11 oed. Byddai'r ysgol yn symud i Barc Tremorfa a bydd llety newydd yn cael ei adeiladu i gymryd lle ei hadeiladau presennol.

Dan y cynlluniau, byddai Ysgol Uwchradd Willows yn cynyddu nifer ei disgyblion i 240 fesul grŵp blwyddyn, gan droi yn ysgol wyth dosbarth mynediad ar gyfer disgyblion 11-16 oed. Byddai'n cynnwys cyfleusterau gwell o ansawdd uwch a fyddai ar gael i'r gymuned ehangach eu defnyddio, gan gynnwys nifer o Ardaloedd Gemau Amlddefnydd (AGADd) ar gyfer chwaraeon megis pêl-fasged, pêl-rwyd a thenis, yn ogystal â chae 4G gyda llifoleuadau. Ar ben hynny, byddai tri uwch gae glaswellt, a fydd yn galluogi creu mwy o gaeau bach i'w defnyddio gan yr ysgol a chan Glwb Rygbi St Albans. 

Os gweithredir y cynigion, byddai safle presennol Ysgol Uwchradd Willows yn cael ei dirweddu a'i ddychwelyd i dir y parc a olygai y byddai trigolion lleol yn manteisio ar ragor o fannau gwyrdd. Byddai hyn yn cynnwys ardal chwarae newydd â chyfarpar, a llwybrau cerdded a beicffyrdd o amgylch y safle, a fydd yn ei gysylltu â Pharc Tremorfa. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Os cânt eu cymeradwyo, byddai'r cynlluniau hyn yn cynrychioli buddsoddiad o oddeutu £42 miliwn yn ardaloedd Sblot a Thremorfa.

"Mae Ysgol Uwchradd Willows yn agosáu at ddiwedd ei bywyd gweithredol a byddai safle newydd yn cynnig cyfleusterau o'r ansawdd gorau, gan sicrhau bod disgyblion yn manteisio ar yr amgylchedd dysgu â'r ansawdd gorau yn ogystal â sicrhau cyfleusterau hamdden rhagorol y gall y gymuned gyfan elwa arnynt.  

"Hefyd, byddai hyn yn creu man agored cyhoeddus mwy a gwell i drigolion lleol a gaiff ei ddatblygu ar y safle presennol a'i gysylltu â Pharc Tremorfa gyda llwybrau cerdded a beicffyrdd."

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Os cytunir ar hyn, byddai'r safle newydd yn cael ei gyflawni dan Fand B ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £284 miliwn, y buddsoddiad unigol mwyaf erioed yn ein hysgolion.

Drwy'r buddsoddiad hwn gallwn adeiladu ar y momentwm o'r £164m rydym wedi'i roi tuag at ysgolion newydd dros y pum mlynedd diwethaf, a mynd â'n Rhaglen Ysgolion ac Addysg y 21ain Ganrif i lefel arall."

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, byddai'r cynigion terfynol yn cael eu cyflwyno i ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Medi 2019 a gaiff ei gynnal am 6 wythnos o leiaf, gan wahodd amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys rhieni, staff a llywodraethwyr yn yr ysgolion dan sylw i rannu eu barn. Byddai hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd i'r cyhoedd, trigolion lleol, busnesau lleol ac eraill sydd â diddordeb yn y gymuned ddweud eu dweud.