Back
Caerdydd yn datgelu diffyg cyllideb o £25m ar gyfer y flwyddyn nesaf


Bydd rhaid i Gyngor Caerdydd bontio blwch cyllidebol o £25m y flwyddyn nesaf a £101m dros y pedair blynedd nesaf yn ôl adroddiad newydd am gyllid yr awdurdod.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu bod y Cyngor eisoes wedi gwneud £220m mewn arbedion ac wedi colli mwy na 1,600 o swyddi amser llawn dros y 10 mlynedd diwethaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Bydd unrhyw un sydd wedi bod yn dilyn y newyddion yn gwybod bod cynghorau ar draws y DU yn ei chael hi'n anodd cael dau ben y llinyn ynghyd ac mae cyfraddau'r Dreth Gyngor yn codi i wneud iawn am hynny. Gyda diffyg cyllideb o £101 yn cael ei ragfynegi ar gyfer y pedair blynedd nesaf, nid yw'n wir awgrymu bod mesurau cyni drosodd, yn anffodus."

 

Dengys gwaith modelu presennol y gallai'r Cyngor bontio'r bwlch cyllideb o £25m trwy:

  • Wneud arbedion effeithlonrwydd a chynyddu incwm - £18.5m;
  • Gweithredu cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.5% (gan godi refeniw gwerth £6.5m).

 

Dywedodd y Cyng Weaver, "Rydym yn gofyn i bob gwasanaeth adolygu ei gyllideb i wneud arbedion enfawr unwaith eto, trwy hyd yn oed mwy o arbedion effeithlonrwydd, creu mwy o incwm a newid sut rydym yn darparu gwasanaethau. Bydd rhaid i'r Dreth Gyngor gyfrannu at hynny ond tipyn bach yn unig o'r bwlch sy'n cael ei gau trwy'r dreth honno.  Byddai cynnydd o 4.5% yn codi £6.5 miliwn, ond rydym yn wynebu diffyg cyfan o £25 miliwn."

 

Rhennir cyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20 (£624m) rhwng pum maes:

  • Ysgolion - £241m
  • Gwasanaethau Cymdeithasol - £171m
  • Pob gwasanaeth arall (gan gynnwys priffyrdd, gwastraff a pharciau) - £109m
  • Pethau na ellir eu rheoli (ardoll y Gwasanaeth Tân a Chymhorthdal y Dreth Gyngor) - £53m
  • Cyllid cyfalaf (sy'n angenrheidiol i wella neu gaffael asedau) - £50m

 

Dywedodd y Cyng Weaver, "Heb os nac onibai mae blwyddyn ar ôl blwyddyn o doriadau sylweddol yn ei gwneud yn fwy anodd i'r Cyngor hwn wneud yr arbedion y mae eu hangen. Mae Caerdydd yn ddinas sy'n tyfu ac mae dinas sy'n tyfu yn golygu galw cynyddol am ein gwasanaethau. Felly rhagor o ofal cymdeithasol, rhagor o leoedd ysgol, rhagor o anghenion tai, rhagor o wastraff i'w gasglu, rhagor o ffyrdd a thyllau yn y ffyrdd i'w hatgyweirio.

 

""Ers blynyddoedd nawr rydym wedi bod yn gweithio'n galed i ddiogelu ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol cymaint ag y gallwn. Mae mwy na 1,600 o swyddi wedi cael eu colli o'n swyddfa gefn a'n gwasanaethau parciau a glanhau strydoedd yn ogystal â thrwy drawsnewid sut rydym yn gwneud busnes. Ar ôl degawd o doriadau sylweddol termau go iawn, mae'n mynd yn fwyfwy anodd.

 

"Rydym yn rhagfynegi y bydd ysgolion Caerdydd yn cael £4.6m ychwanegol y flwyddyn nesaf i helpu gyda'r twf, sy'n gynnydd net o 1.9% o ran arian.  Byddai hynny'n cyd-fynd â tharged effeithlonrwydd 1% ar gyfer ysgolion, oherwydd ein bod yn gwybod bod costau'n cynyddu.

 

"Rydym yn falch o sut rydym wedi arwain y gwaith o drawsnewid ysgolion Caerdydd, sydd bellach yn cael rhai o'r canlyniadau gorau yn y wlad, ac rydym yn ymrwymedig i'r rhaglen Band B a fydd yn agor nifer o ysgolion ac adeiladau ysgol newydd dros y blynyddoedd nesaf.  Byddwn ni'n gweithio'n agos gyda nhw i'w helpu i reoli eu cyllidebau mor effeithiol â phosibl.

 

"Nid ydym yn pennu ein cyllideb derfynol tan y mis Chwefror ar ôl i ni gael amcan o'n cyllid gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn ymgynghori ynghylch cynlluniau cyllidebol penodol yn ddiweddarach eleni.  Byddwn yn parhau â'n cynlluniau uchelgeisiol i ddarparu tai cyngor newydd ac adeiladau ysgol newydd, a diogelu'r gwasanaethau sydd fwyaf pwysig i breswylwyr Caerdydd cymaint â phosib. Mae cyni'n gorfodi penderfyniadau anodd dros ben mewn llywodraeth leol ledled y DU ac yn anffodus ni allwn weld unrhyw ddiwedd iddo."

 

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried Adroddiad y Strategaeth Cyllideb a'i gynigion yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 11 Gorffennaf. Yn yr hydref bydd ymgynghori manwl â'r cyhoedd ynghylch y cynigion cyllidebol a fydd yn canolbwyntio ar incwm a phrojectau newid trawsffurfiol.