Back
Gwneud gwaith draeniau hanfodol ar Heol Llantrisant

Bydd Heol Llantrisant - o'r gyffordd â Heol Isaf i Ffordd Caerdydd - ar gau yn y ddau gyfeiriad o 9.30am ar 22 Gorffennaf am tua thair wythnos, er mwyn gwneud gwaith draeniau hanfodol ar y ffordd gerbydau.

Tra bydd y ffordd ar gau, bydd y contractwr yn gwneud y gwaith rhwng 8am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac o 9am tan 10pm ar ddydd Sul.

Ni chaiff y ffordd ei chau am fwy na'r tair wythnos a ganiateir, ac os caiff y gwaith ei gwblhau'n gynt, caiff y trigolion, busnesau a'r cyhoedd wybod ymlaen llaw drwy ddatganiad i'r wasg newydd. Trefnwyd y gwaith dros wyliau'r haf, gan fod ymchwil yn dangos fod llif y traffig yn llai o lawer pan fo'r ysgolion ar gau.

Mae'r Cyngor wedi rhoi cynlluniau ar waith i beidio â tharfu'n ormodol ar drigolion a busnesau.Mae'r rhain yn cynnwys:

Bydd y cyfyngiad pwysau ar Heol Isaf yn parhau ar waith (ac eithrio ar gyfer y trefniadau mynediad arferol).

Mae'r Cyngor a'n contractwr wedi cysylltu â busnesau yn yr ardal a chynhelir mynediad i drigolion a busnesau sy'n byw neu'n gweithredu ar Heol Llantrisant o'r gyffordd â Heol Isaf i'r gyffordd â Heol Sant y Nyll.

Caiff trigolion Ystâd Rhydlafar hefyd fynediad i'w heiddo, a gallant deithio ar hyd Croft-Y-Gennau Road i fynd i dde'r ddinas.

Mae'r holl wasanaethau brys wedi cael gwybod bod y ffordd ar gau a bydd protocolau ar waith i sicrhau y gall y gwasanaethau hyn weithredu'n effeithiol.

Mae'r holl gwmnïau bysus hefyd wedi cael gwybod am gau'r ffordd a bydd unrhyw newidiadau i unrhyw un o'r gwasanaethau bws arferol sy'n defnyddio'r ffordd ar wefan y cwmni.

Bydd mynediad i gerddwyr a beicwyr dros y cyfnod cau dros bont dros dro.

Caiff yr holl arwyddion electronig (VMS) eu defnyddio yn ardaloedd Asiantaeth Cefnffyrdd Caerdydd a De Cymru (SWTRA) a rhoddir rhybudd i ddefnyddwyr y ffyrdd cyn y cyfnod cau a thrwyddo. Bydd arwyddion dargyfeirio'n cael eu gosod. Caiff y sawl sy'n teithio i'r gogledd allan o'r ddinas gyngor i ddefnyddio'r A48 neu Heol Isaf i fynd i'r A470.

Caiff y sawl sy'n teithio i Gaerdydd gyngor i ddefnyddio traffordd yr M4. Caiff traffig cerbydau trwm i safleoedd datblygu eu dargyfeirio ar hyd yr A48 o Western Avenue.