Back
Lloches newydd i'r gymuned Foslemaidd ym Mynwent y Gorllewin
Mae lloches newydd wedi'i gosod yn yr ardal gladdu Foslemaidd ym Mynwent y Gorllewin.

Mae'r lloches £20,000, a fydd yn cynnig amddiffyniad rhag tywydd gwael i ymwelwyr i'r fynwent sydd eisiau gweddïo neu sy'n aros i wasanaethau claddu ddechrau, wedi'i hariannu gan gyfraniadau hael gan fosgiau, busnesau ac arweinwyr cymunedol lleol ac wedi'i darparu mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, a arweinir gan y Cynghorwyr Dilwar Ali ac Abdul Sattar.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael,"Mae'n bwysig bod ein mynwentydd yn llefydd coffa urddasol i bobl o bob ffydd a bydd y lloches newydd hon yn gwella'r ardal gladdu Foslemaidd ym Mynwent y Gorllewin. 

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi am eu haelioni, a phawb sydd wedi chwarae rhan o ran sicrhau bod hyn yn digwydd, am yr amser a'r ymdrech maen nhw wedi'i roi i'r project."

Cafwyd cyfraniadau ganDar Ul Isra, Universal Foods Limited, Masud a Zakia Ahmed, Abu Baker Mosque, Mosg a Chanolfan Addysg Islamaidd Jalalia, Mosg a Chanolfan Ddiwylliannol Islamaidd Shah, Mosg Bilal, Global Foods Limited, Cyngor Foslemaidd Cymru, Canolfan Islamaidd De Cymru, Mosg Madina, Canolfan Ddiwylliannol Islamaidd Rabbaniah, Canolfan Al Farah, Canolfan Islamaidd Masjid-E-Umar, Canolfan Foslemaidd Dwyrain Caerdydd, Mughal Emperor a M F Haque.