Back
Carchar i dwyllwr am ‘ymddygiad gwarthus yn targedu’r henoed a phobl agored i niwed’

Dedfrydwyd Tom Connors, 51 oed, o 7 Shirenewton i ddwy flynedd o garchar am dwyll a masnachu annheg yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener diwethaf.

Roedd yr achos yn ymwneud â thri dioddefwr a oedd yn bensiynwyr a dargedwyd gan Connors er mwyn gwneud gwaith ar eu cartrefi.

Ym mis Rhagfyr 2017, galwodd Connors yn ddi-wahoddiad ar hen glerigwr yn ei wythdegau hwyr a oedd yn dioddef o broblemau symudedd, i ddweud wrtho fod teils ar ei do wedi cracio yng nghefn ei eiddo a bod angen eu hadnewyddu. Rhoddodd Connors bris gwreiddiol o £4000 am y gwaith, ond gan leihau hynny wedyn i £3,500 fel gostyngiad arbennig pe byddai'r hen ŵr yn cael gwneud y gwaith cyn y Nadolig.

Ni roddwyd unrhyw waith papur ac ni hysbyswyd y gŵr o'i hawliau i ganslo. Rhoddodd syrfëwr annibynnol dystiolaeth gan awgrymu nad oedd o'r farn fod y gwaith yn angenrheidiol, ac os ydoedd, y dylai fod wedi costio £700.

Ym mis Gorffennaf 2018, aeth Connors at ei ail ddioddefwr - dyn 70 oed - ar y stryd yn agos i'w gartref a'i berswadio i roi £6,400 iddo am waith yr oedd angen ei wneud yn ôl y sôn yn ei ardd gefn. Yn ffodus ar yr achlysur hwn ni roddwyd unrhyw arian i Connors, am i swyddogion masnach ymyrryd.

Digwyddodd y trydydd twyll ym mis Mawrth 2019, pan alwodd Connors yn ddi-wahoddiad ar hen wraig gan ddweud wrthi y gofynnwyd iddo wneud gwaith ar do bloc o fflatiau lle roedd y wraig yn byw. Cymerodd Connors £9,000 gan y wraig gan ddychwelyd yn hwyrach i hawlio hyd yn oed mwy o arian ar gyfer TAW, er nad oedd wedi ei gofrestru ar gyfer TAW.

Wrth ei amddiffyn, dwedodd y Bargyfreithiwr dros yr Amddiffyniad, Kevin Seal, wrth y llys fod Connors yn ddyn 51 oed ac yn ddyn teuluol, roedd wedi pledio yn euog fel na fyddai'n rhaid i'r dioddefwyr dystio ger bron y llys a bod ‘arwyddion didwyll o edifeirwch'.

Disgrifiwyd achos Connors gan y Barnwr Jeremy Jenkins fel ‘ymddygiad gwarthus wrth dargedu'r henoed a phobl agored i niwed' a rhedeg busnes yn ‘fygythiol ac yn anonest.'

Dywedodd y Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Roedd hwn yn achos digyfaddawd, lle roedd yn amlwg fod Thomas Connors wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth er mwyn targedu'r henoed a dioddefwyr agored i niwed, cyn dwyn yn dwyllodrus oddi arnynt gymaint o'u cynilion bywyd ag y gallai.

"Mae'r amddiffyniad a roddwyd fod Connors yn wirioneddol edifar yn amheus a dweud y lleiaf, a fy unig obaith yw y byddai canllawiau dedfrydu ar gyfer troseddau hyll fel hyn rhoi dedfrydau hirach.

"Mae targedu'r henoed a phobl sy'n agored i niwed a chymryd eu harian am waith nad sydd ei eisiau, na'i angen, yn warth ac mae'r achos bellach wedi ei ohirio fel y gallwn wneud ceisiadau am iawndal, costau a cheisio gosod Gorchymyn Ymddygiad Troseddol arno i atal Connors rhag troseddu eto, unwaith y caiff ei ryddhau o'r carchar."