Back
Buddsoddi mewn seilwaith Cerbydau Trydan

Mae cyfres o fesurau am gael eu rhoi ar waith er mwyn annog y defnydd ar gerbydau trydan yn y ddinas.

Mae wedi ei gofnodi'n helaeth fod allyriadau peiriannau disel a phetrol yn cyfrannu'n sylweddol at lygredd aer yn y DG. Mewn gwirionedd, mae trafnidiaeth ffordd yn gyfrifol am tua 80% o'r NO2 a fesurir ar ochr y ffordd.

Bydd y mesurau a gaiff eu rhoi ar waith yn trawsnewid fflyd cerbydau'r Cyngor ac yn rhoi'r seilwaith angen rheidiol yn ei le i wneud teithio mewn car trydan yn ddichonadwy i breswylwyr ac ymwelwyr â Phrifddinas Cymru.

Mae'r mesurau yn cynnwys:

  • 19 o bwyntiau gwefru ar y stryd sydd wedi eu gosod ar y briffordd yn rhai o faestrefi mewnol y ddinas. Penderfynwyd ar leoliad y gwefrwyr yma yn dilyn ceisiadau gan breswylwyr yn yr ardaloedd dan sylw.
  • Bydd dros chwedeg o gerbydau'r cyngor yn cael eu haddasu ar gyfer pŵer trydan erbyn 2021, gyda chynlluniau i addasu'r fflyd llai sy'n weddill yn yr ail gam.
  • Bydd pwyntiau gwefru yn cael eu gosod i gefnogi'r fflyd newydd yma ar safleoedd y Cyngor gan gynnwys Neuadd y Sir, Ffordd Lamby a Coleridge Road gyda phwyntiau gwefru ychwanegol pan fydd angen.
  • Mae cynllun peilot wedi ei gadarnhau mewn partneriaeth ag Engenie, i ddarparu nifer bychan o gyfleusterau gwefru cyflym mewn lleoliadau allweddol yng Nghanol y Ddinas ac ym Mae Caerdydd.
  • Mae canllawiau cynllunio newydd wedi eu partio i annog datblygwyr i osod pwyntiau gwefru cerbydau mewn ardaloedd preswyl newydd a datblygiadau masnachol.
  • Mae'r cyngor yn gweithio gyda chwmnïau bysus a thacsis yn y ddinas i annog a chefnogi eu camau nhw eu hunain i leihau allyriadau.
  • Ymrwymiad y bydd y Cyngor yn datblygu cynllun cyflawni hir-dymor, mewn partneriaeth ag eraill sydd â diddordeb, i sicrhau fod darpariaeth pwyntiau gwefru yn y ddinas yn ateb y galw cynyddol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd:

"Cofnodwyd yn helaeth y bydd y Cyngor yn gwireddu nifer o fesurau i wella ansawdd yr aer yn y ddinas. Fel rhan o hyn, rydym yn bwriadu rhedeg ein fflyd ein hunain trwy ddefnyddio tanwydd cynaliadwy, gan symud i ffwrdd o ddibyniaeth ar danwydd ffosil.

"Rydym wedi defnyddio cyllid grant i ddechrau darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan ar gyfer y cyhoedd, fel ein bod ni'n gallu sicrhau fod prynu cerbyd trydan yn ddewis dichonadwy.

"Rydym yn gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys 19 o bwyntiau gwefru cyhoeddus hawdd eu cyrchu yn rhai o'n maestrefi mewnol, yn ogystal a gweithio gyda'r sector breifat i greu pwyntiau gwefru cyflym mewn lleoliadau allweddol.

"Bwriadwn barhau i gynnig am gyllid, flwyddyn ar ôl blwyddyn, er mwyn cynyddu nifer y pwyntiau gwefru ar hyd y briffordd.

"Er mwyn gwireddu newid yn yr amser byrraf posib, mae'n hanfodol fod pwyntiau gwefru trydan yn cael eu gosod mewn datblygiadau preswyl a masnachol newydd a dyma pam ein bod yn gweithio gyda datblygwyr i roi canllawiau eglur i geisiadau cynllunio yn y dyfodol."