Back
Mwy o Ysgolion Caerdydd â chanlyniadau da o Arolygiadau Estyn

Mae dwy Ysgol Gynradd arall yng Nghaerdydd wedi cael canlyniad ‘Da' ar draws y bwrdd gan Estyn, arolygiaeth addysg Cymru.

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Sant John Lloyd yn Trowbridge ac Ysgol Gynradd Millbank yn  Nhrelái wedi cael y sgôr uchaf ond un ym mhob un o'r pum categori a arolygwyd.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\St John Lloyd RC\St John Lloyd.png

Cafodd Ysgol Gatholig Sant John Lloyd ei disgrifio fel ‘cymuned hapus, ddiogel a hynod gynhwysol sy'n meithrin ac yn dathlu 'cyflawniadau' disgyblion. Nodwyd hefyd fod ‘disgyblion yn mwynhau dod i'r ysgol a'u bod yn teimlo wedi eu gwerthfawrogi yn yr ysgol.'

Canmolwyd y pennaeth hefyd gan yr arolygwyr am yr arweinyddiaeth effeithiol sydd wedi gosod cyfeiriad clir i'r ysgol, ac ychwanegwyd bod yr holl aelodau staff yn gweithio'n dda gyda'i gilydd, gan sicrhau bod pob agwedd ar waith yr ysgol yn dylanwadu ar gynnydd a llesiant y disgyblion mewn ffordd gadarnhaol. 

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\St John Lloyd RC\Cardiff Council 4.png

Wrth drafod canlyniadau cadarnhaol yr ysgol, dywedodd y pennaeth Mrs Hart: "Fel cymuned ysgol, rydym ni wrth ein boddau gyda disgrifiad Estyn o'n hysgol sef ysgol lle mae "pob plentyn yn bwysig". Mae hyn wrth galon ethos ein hysgol ac mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried yn hanfodol wrth ddarparu'r addysg orau bosibl i'n disgyblion."

Cafodd Ysgol Gynradd Millbank ei chanmol am y ‘profiadau dysgu diddorol a gynlluniwyd gan athrawon sy'n cadw diddordeb y disgyblion yn dda.'

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Millbank Primary School\Millbank PS.JPG

Nodwyd hefyd fod yr ysgol ‘yn gwneud defnydd da i bartneriaethau i gyfoethogi profiad dysgu'r disgyblion a datblygu eu sgiliau creadigol yn dda.'

Ychwanegodd arolygwyr fod y pennaeth yn rhoi arweinyddiaeth glir a phwrpasol' a bod ‘yr holl staff yn datblygu perthnasoedd gwaith cryf gyda disgyblion ac yn creu amgylchedd tawel ac effeithlon yn y gwersi."

Cafodd Ysgol Gynradd Millbank ei chanmol am y ‘profiadau dysgu diddorol a gynlluniwyd gan athrawon sy'n cadw diddordeb y disgyblion yn dda' yn ogystal ag am ‘lefelau da iawn o bresenoldeb disgyblion.' Disgrifir yr ysgol fel 'cymuned feithringar gyda lefel gref o ofal a chyd-weithredu rhwng staff, disgyblion a rhieni.'

C:\Users\c739646\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Word\IMG_9879.JPG

Nodwyd hefyd fod athrawon ‘yn gwneud defnydd effeithiol iawn o bartneriaethau gyda grwpiau lleol a sefydliadau cenedlaethol i wella'r cwricwlwm'. Mae hyn wedi cynnwys gweithio gyda'r Royal Shakespeare Company ac Opera Cenedlaethol Cymru i ddatblygu sgiliau celfyddydau mynegiannol ar y cyd â dychymyg a hyder y disgyblion.

Ychwanegodd arolygwyr fod y pennaeth ‘yn rhoi arweinyddiaeth glir a phwrpasol' a bod ‘yr holl staff yn datblygu perthnasoedd gwaith cryf gyda disgyblion ac yn creu amgylchedd tawel ac effeithlon yn y gwersi." Mae hyn yn cyd-fynd â chysylltiadau hynod gadarnhaol â rhieni sy'n ‘gwerthfawrogi y llinellau cyfathrebu clir rhwng yr ysgol a'r cartref' ac yn 'fodlon iawn ar barodrwydd y staff i gwrdd â nhw i drafod unrhyw bryderon neu broblemau y maent yn dymuno eu trafod.'

Mewn ymateb ar y cyd, dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Millbank Karen Brown a Phennaeth Dros Dro yr ysgol, Claire Francis: "Rydym ni'n falch iawn gyda'r gydnabyddiaeth gan Estyn, am ymdrechion cymuned gyfan yr ysgol i wneud Millbank yn ysgol feithringar, gynhwysol a llwyddiannus y mae disgyblion yn hapus i fynd iddi a lle maent yn mwynhau'r lefelau uchaf o lesiant.

"Mae ein hysgol hapus a chyfeillgar yn edrych ymlaen at barhau i fod y gorau y gallwn ni fod ar gyfer ein disgyblion a'n cymuned wrth i ni groesawu cwricwlwm newydd Cymru."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod y Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, "Mae hi'n wych gweld cynifer o'n hysgolion yn cyflawni mor dda yn eu harolygiadau Estyn.

"Mae hyn yn dangos ymrwymiad, gwaith caled a brwdfrydedd staff addysgol y ddinas, y llywodraethwyr a'r cymunedau ehangach sydd wedi dangos balchder a chefnogaeth i'w hysgolion.

"Llongyfarchiadau i Ysgol Millbank ac Ysgol Sant John Lloyd sy'n siŵr o fod yn falch iawn o'u cyflawniadau.

"Gweledigaeth Caerdydd yw bod pob plentyn a pherson ifanc yn mynd i ysgolion gwych ac yn datblygu'r wybodaeth, sgiliau a nodweddion a fydd yn eu helpu i lwyddo yn y dyfodol. Mae'r canlyniadau cadarnhaol hyn yn brawf o duedd barhaus perfformiad sy'n gwella."