Back
Gwasanaeth Coffa Babanod Amlosgfa Draenen Pen-y-graig
Cynhelir Gwasanaeth Coffa arbennig i Fabanod am 11.30am ddydd Sul, 30 Mehefin yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig yng Nghapel y Wenallt.

Cefnogir y gwasanaeth coffa gan Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion (Sands) a bydd yn cael ei arwain gan Gaplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael,  “Nod y gwasanaeth syml hwn yw rhoi cyfle i deuluoedd sydd wedi cael profiad trist iawn o golli babi gael amgylchedd gofalgar a chefnogol i ddod at ei gilydd i gofio."

Dywedodd Heatherjane Coombs, Cadeirydd Sands Caerdydd a Chasnewydd:  “Rydym yn falch o weithio gyda Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd i drefnu’r gwasanaeth ardderchog hwn i alluogi rhieni i gofio eu babanod.  Rydym yn deall cymaint o ergyd yw colli babi, a bydd aelodau’r grŵp ar gael i roi cyngor ar ôl y gwasanaeth os ydych am siarad â rhywun.”

Gellir ysgrifennu cardiau coffa yn ystod y gwasanaeth, ac wedyn bydd cyfle i roi carreg goffa yn y fowlen goffa yn yr Ardd Fytholwyrdd.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch staff Gwasanaethau Profedigaeth Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar 029 2054 4820.