Mae Cyngor Caerdydd wedi llwyddo i ennill cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ystod eang o brojectau a grëwyd i wella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ym mhrifddinas Cymru.
Rydym ni wedi sicrhau cyfanswm o £10,455,000 drwy nifer o grantiau gan gynnwys y Gronfa Trafnidiaeth Leol; y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol, Teithio Llesol; Y Gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a Chronfa Gyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd.
Caiff yr arian ei wario mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys:
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae ennill y cyllid grant hwn yn newyddion gwych i Gaerdydd. Fel dinas, mae'n hollbwysig i ni wneud teithio mewn ffyrdd cynaliadwy yn ddewis mwy deniadol ac ymarferol.
Er mwyn i ni wella teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, bydd angen gwneud rhai newidiadau sylweddol i'r rhwydwaith priffyrdd. I bob diben, bydd rhaid ail-ddylunio rhai ffyrdd yn gyfan gwbl i sicrhau bod y priffyrdd a'r llwybrau cerdded yn ddiogel i gerddwyr, beicwyr, defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â cheir.
"Drwy wella'r seilwaith, bydd y ffurfiau cynaliadwy o deithio megis cerdded, beicio a theithio ar fws yn dod yn fwy deniadol - fel rydym ni wedi gweld mewn nifer o ddinasoedd Ewropeaidd eraill."
Gan fod y cyllid wedi ei sicrhau nawr, mae project manwl yn cael ei ddatblygu i sicrhau y bydd y Cyngor yn manteisio i'r eithaf ar y cyllid ychwanegol hwn.
Bydd manylion y projectau penodol yn amodol ar broses statudol y Cyngor ar gyfer gwneud penderfyniadau a chynhelir ymgynghoriad â'r cyhoedd pan fo hynny'n briodol.