Back
Cyngor teithio ar gyfer Pink yn Stadiwm Principality

Bydd Pink yn perfformio yn Stadiwm Principality nos Iau 20 Mehefin.

Bydd y ffyrdd yn cau'n llwyr er diogelwch y cyhoedd.

Bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 5.30pm i 11.30pm.

Dylai'r rheini sy'n dod i'r gyngerdd adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau sydd wedi'u gwahardd ynprincipalitystadium.wales cyn iddyn nhw ddod i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas:

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy'r dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio i'r digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Sylwer: 
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd ger Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Wedi i'r digwyddiad a'r cau ffyrdd ddod i ben am tua 6.00pm, bydd Heol Isaf Eglwys Fair yn parhau ar gau am y nos.

Trenau

Mae Network Rail yn rhoi gwybod i gwsmeriaid na fydd unrhyw waith peirianneg yn effeithio ar wasanaethau'r brif lein i Gaerdydd.

Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw yn www.nationalrail.co.uk neu drwy ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwybod i'r holl gwsmeriaid y disgwylir i drenau yn ardal Caerdydd fod yn brysur drwy'r dydd, yn benodol wrth i bobl adael y ddinas ar ôl y gwaith. Argymhellir i'r rhai sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r cyngerdd ganiatáu digon o amser ar gyfer eu taith.

Bydd system rheoli torfeydd lawn ar waith yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd holl wasanaethau'r Cymoedd yn gadael o gefn yr orsaf ym maes parcio Heol Penarth. Bydd capasiti ychwanegol ar wasanaethau lle y bo'n bosibl ond bydd y gwasanaethau'n gyfyngedig iawn oherwydd amser gorffen y gyngerdd.

Bydd Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 10pm i gwsmeriaid sy'n gadael y ddinas a bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch i  https://trctrenau.cymru/cy/digwyddiadau   

Parcio a Theithio ar gyfer y Digwyddiad

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i'r safle.

I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i -  https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/cars-park-ride-and-premium-parking-for-pink-16311

Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle.

Y man gollwng yw Fitzhamon Embankment.

Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 10.30am, gyda'r safle yn agor am 10.30am a'r bws cyntaf yn gadael am 11.00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 11.30pm a bydd y maes parcio'n cau am hanner nos.

Traffyrdd a chefnffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a'r ffyrdd sy'n arwain i Gaerdydd fod yn brysur iawn.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Pris: £15 i'w dalu ar y diwrnod yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 11.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Pris: £12 os byddwch yn archebu ymlaen llaw drwy'r ddolen hon - :  https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/cars-park-ride-and-premium-parking-for-pink-16311neu £15 ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig).

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)

Pris: £25 ar y dydd neu £25 os cadwch le o flaen llaw - :  https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/coaches-park-ride-and-premium-parking-for-pink-16312Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall pobl sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd parcio a theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP (Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 5.00pm ac yn ailagor am 11.30pm.

Bws
Bysus lleol:

Mae Bws Caerdydd yn rhoi gwybod i'r holl gwsmeriaid y caiff gwasanaethau eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd o 4.00pm tan y bws olaf. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin.

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
 
National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.