Back
Terfysgoedd Hiliol Caerdydd: 100 mlynedd yn ddiweddarach
Mae Amgueddfa Caerdydd (Amgueddfa Stori Caerdydd gynt) yn cynnal digwyddiad am ddim i nodi 100 mlynedd ers i derfysgoedd hiliol yng Nghaerdydd adael tri o bobl yn farw, a siopau a thai wedi'u difrodi.

Mae'r digwyddiad - ‘Terfysgoedd Hiliol Caerdydd: 100 mlynedd yn ddiweddarach', ddydd Sadwrn 15 Mehefin yn lansio project newydd gan y gwneuthurwr ffilm a theatr, Gavin Porter o'r enw ‘People of Butetown'.

Ynghyd â grŵp o artistiaid, gan gynnwys Ali Goolyard, Kyle Legall, Zaid Djerdi ac Anthony Ward, nod y project yw dod â safbwyntiau newydd ar stori'r terfysgoedd a stori cymuned  Butetown.

Dywedodd Gavin, sydd o Butetown:"Mae diddordeb gen i yn themâu lleisiau a chynrychiolaeth, yn arbennig felly llais pwy sy'n cael ei glywed.Rwy' wedi fy nghyffroi o fod yn gweithio ar y project hwn gydag artistiaid o Butetown, ac o ddweud stori creu chwedlau, gwydnwch a chreadigrwydd."

Bydd yr arddangosfa aml-blatfform yn dweud storïau'r rhagfarn a hiliaeth a brofwyd gan bobl Butetown, ac yn dathlu gwydnwch y gymuned, gan mlynedd yn ddiweddarach. Bydd y gwaith celf newydd yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Caerdydd yn hwyrach yn y flwyddyn.

Yn ogystal â chynnal gweithdy gyda Porter, bydd yr arddangosfa'n cynnal nifer o sgyrsiau a sesiynau gwybodaeth gan sefydliadau partner, sydd â'r nod o ddod â phobl ynghyd i fyfyrio ar hanes a gwaddol y terfysgoedd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Ei hamrywiaeth yw un o gryfderau Caerdydd, ond ni ddylech fyth anwybyddu eich hanes - roedd y terfysgoedd gan mlynedd yn ôl yn isafbwynt yn hanes gweddol gytûn y ddinas tan hynny, a gobeithiaf y bydd y digwyddiad hwn yn helpu i sicrhau bod hwn yn ddarn o hanes na chaiff fyth ei ailadrodd."
 

Esbonia Rheolwr yr Amgueddfa, Victoria Rogers:"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda chymuned Butetown ar sut orau i nodi'r digwyddiad hwn. Mae Terfysgoedd Hiliol Caerdydd yn ddigwyddiad cywilyddus yn ein hanes, ond mae angen i ni gydnabod ac i ddysgu oddi wrtho - neu fel arall nid ydym yn gwneud cymwynas i'r cymunedau a'r unigolion hynny y bu hyn yn effeithio arnyn nhw. Mae'n bwysig nad ydym yn dewis ac yn dethol y gwersi yr ydym yn eu dysgu o hanes - mae angen i ni ddysgu o'r 'gwael' a'r 'da' yn ein gorffennol."

Dyma amserlen y digwyddiad am ddim ddydd Sadwrn:

·         Archwilio'r gorffennol a'r presennol(10am - 3pm)

Dysgwch ragor am gasgliadau Amgueddfa Caerdydd, Archifau Morgannwg a Llyfrgell Treftadaeth Cathays, ynghyd â gwaith Race Equality First yn ein sesiwn wybodaeth galw heibio.

·         Barn ar y Terfysgoedd(11am - 12pm)

Sgyrsiau byr gan Gaynor Legall (Cyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliannol), Mike Pearson a Chris Rushton (Cynyrchiadau Gritty)

·         Dewch i gwrdd â'r gwneuthurwr ffilmiau, Gavin Porter(12.30pm - 1.30pm)

Ymunwch â ni am sgwrs gyda Gavin Porter a'i ffrindiau wrth iddo ddechrau ar y daith o greu gwaith newydd ar Derfysgoedd Hiliol 1919 a'u gwaddol yng Nghaerdydd.

·         Sgrinio ffilm(2pm)

Dangosiad o Dock of the Bay gan ITV Cymru Wales, sy'n cynnwys yr artist ac ymchwilydd o Gaerdydd, Dr Adeola Dewis.

Bydd hefyd arddangosfa o erthyglau papur newydd a chofnodion eraill o adeg y terfysgoedd, yn Llyfrgell Treftadaeth Cathays yn ystod mis Mehefin.