Back
Dyfodol digwyddiadau yng Nghaerdydd

 

Caiff cyfres o argymhellion ar strategaeth digwyddiadau'r dyfodol yng Nghaerdydd ei thrafod gan y Cabinet yr wythnos nesaf.

 

Mae adroddiad y Cabinet wedi'i gyhoeddi ar wefan Cyngor Caerdydd mewn ymateb i ymchwiliad gan y Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant sy'n argymell y dylid derbyn 11 o 12 cynnig y pwyllgor, naill ai'n llawn neu'n rhannol, ac y dylid gwrthod un argymhelliad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Nid damwain yw enw da rhagorol Caerdydd o ran cynnal digwyddiadau - mae'n ganlyniad i strategaeth hirdymor lwyddiannus i weithio ar y cyd â'n partneriaid ‘Tîm Cymru' i wneud Caerdydd yn ddinas flaenllaw o ran digwyddiadau.

 

"O ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr megis rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr a Chwpan Criced y Byd, i Uwchgynadleddau Ewropeaidd, cyfarfod NATO a chyngherddau a digwyddiadau diwylliannol ar raddfa fawr - mae Caerdydd yn gwneud y cyfan yn eithriadol dda.

 

"Ond rydym yn gwybod na allwn orffwys ar ein bri - mae'r farchnad fyd-eang ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr yn ffyrnig gystadleuol, ac os ydym am barhau i adeiladu a chynnal ein calendr digwyddiadau wedyn mae angen i ni symud tuag at gymysgedd ehangach o ddigwyddiadau byd-eang, ynghyd â digwyddiadau cerdd a diwylliannol unigryw cynhenid a rhoi mwy o ffocws ar ddenu digwyddiadau a chynadleddau busnes."

 

"Mae digwyddiadau'n rhan o'r hyn sy'n gwneud Caerdydd yn ddinas fywiog ac maen nhw'n dod â manteision go iawn i economi'r ddinas, ond mae eu cynnal yn gostus iawn i'r Cyngor ac i'n partneriaid statudol."

 

"Yn unol ag argymhellion y pwyllgor rydym yn bwriadu parhau i lobïo am fwy o arian gan Lywodraeth y DU i helpu i dalu'r costau hyn. Fodd bynnag, er mwyn i Gaerdydd fanteisio ar holl fanteision economaidd hirdymor ein buddsoddiad mewn digwyddiadau, rydym angen i fusnesau weithio gyda ni a sicrhau bod Caerdydd yn parhau i fod yn gyrchfan fforddiadwy a deniadol i ymwelwyr."

 

"Mae gwaith ar lawer o argymhellion y Pwyllgor Craffu a Diwylliant eisoes ar y gweill ac rwy'n croesawu eu mewnbwn wrth i ni barhau i weithio ar ddatblygu ein strategaeth digwyddiadau i'r dyfodol."

 

Mae'r cynigion a argymhellwyd yn cynnwys:

 

  • parhau â'r gwaith i adeiladu Arena Dan Do;
  • datblygu strategaeth ddigwyddiadau;
  • parhau gyda'r cynlluniau i ddatblygu digwyddiad unigryw;
  • lobïo Llywodraeth y DU am fwy o arian i dalu costau cynnal digwyddiadau i'r awdurdod lleol a phartneriaid statudol;
  • rhoi'r dasg i swyddogion barhau gyda'u hymdrechion i gael mwy o bobl i noddi digwyddiadau; a
  • chynnal cyfarfodydd gyda Chanolfan Cynadleddau Rhyngwladol Cymru (ICCW) i sicrhau y gall Caerdydd groesawu a denu'r bobl sy'n mynychu'r ganolfan a digwyddiadau deilliedig.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell gwrthod cynnig i fynd ati i gynllunio rhaglen flynyddol y ddinas er mwyn gwella'r calendr a chynyddu nifer y digwyddiadau yn yr amser segur presennol.

 

Argymhellir gwrthod y cynnig ar y sail bod amseroedd digwyddiadau yn cael eu harwain gan y farchnad. Mae'r Cyngor eisoes yn gweithio gyda'i bartneriaid i fynd ati i gynllunio'r calendr blynyddol a theimlir na fyddai ceisio cyfyngu ar nifer y digwyddiadau ar amser penodol yn fasnachol ymarferol ac y byddai'n niweidiol - y nod yw denu mwy o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn i gydbwyso'r calendr blynyddol yn well.