Back
Cynllun Aer Glân i'w gymeradwyo gan y Cabinet

Mae'r Cabinet yn bwriadu cymeradwyo'r cynllun terfynol i leihau lefelau peryglus o lygredd aer, lleihau tagfeydd, gwella cysylltiadau ffyrdd a gwella'r seilwaith ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a beicio yng nghanol y ddinas.

Mae'r cynigion wedi'u datblygu mewn ymateb i her gyfreithiol gan Client Earth yn erbyn Llywodraeth Cymru, a rwymodd y Cyngor yn gyfreithiol i gymryd camau gweithredu i ostwng lefelau llygredd i'r lefel gyfreithlon yn yr amser byrraf posib.

Bydd y mesurau arfaethedig yn gwella ansawdd yr aer o amgylch canol Caerdydd yn sylweddol, a bydd hynny yn ei dro yn gwella iechyd y cyhoedd. Rhagwelir y bydd y cynllun terfynol yn costio £21 miliwn, y disgwylir i'r rhan fwyaf ohono ddod o Gronfa aer glân Llywodraeth Cymru a nodwyd i fynd i'r afael â'r mater brys hwn.

Mae arolwg annibynnol a gomisiynwyd gan y Cyngor i ragweld lefelau llygredd o NO2yn y dyfodol wedi nodi bod Heol y Castell yn debygol o dorri terfynau cyfreithiol yr UE y tu hwnt i 2021, gyda ffyrdd eraill cyfagos hefyd yn destun pryder. Cynhaliwyd yr arolwg gan yr ymgynghorwyr blaengar yn y diwydiant, Ricardo, ar lun astudiaethau tebyg a gynhaliwyd mewn sawl dinas fawr ym Mhrydain.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Wild; "Mae llygredd aer yn Stryd y Castell yn symptom o broblem ehangach sy'n ymestyn y tu hwnt i'r darn o ffordd hwn. Efallai ein bod ni o fewn cyfyngiadau cyfreithiol ledled y ddinas, gorau po lanaf y gallwn wneud yr aer i bawb.Mae angen i ni fod yn glir bod angen gostwng nifer y ceir sy'n teithio trwy ganol y ddinas a chynyddu'r lle sydd ar gael ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol."

Gofynnir i'r Cabinet gymeradwyo'r achos busnes terfynol yn ei gyfarfod ddydd Iau, Mehefin 13eg, fel y gellir cyflwyno'r cynllun terfynol i Lywodraeth Cymru er mwyn bodloni'r terfyn amser cyfreithiol a gwneud cais am gyllid i roi'r mesurau ar waith.

Dyma'r mesurau terfynol a gynigir:

  • Bysiau Trydan:Darperir am y gost o ariannu bysiau trydan drwy Gronfa Bysiau Allyriadau Isel gan yr Adran Drafnidiaeth a bydd arian cyfatebol ar gael drwy fenthyciad Cyngor i Fysiau Caerdydd yn hytrach na chais am gyllid i'r Gronfa Aer Glân.

  • Cynllun Ôl-ffitio Bysiau:Cyflwyno Cynllun Ôl-ffitio Bysiau ar gyfer gweithredwyr bws yng Nghaerdydd i ddiweddaru bysiau hŷn fel eu bod yn cyrraedd safonau allyriadau injan Euro 6. Rhagwelir y bydd hyn yn costio £2.25 miliwn o'i gymharu â'r amcangyfrif blaenorol o £1.8 miliwn. Mae'r cynnydd yn y gost yn deillio o'r ffaith bod y cynllun hwn ar gael i bob gweithredwr bysiau.
    • Cynlluniau canol y ddinas:Newidiadau mawr i Stryd y Castell a Heol y Porth a dolen ganol y ddinas er mwyn caniatáu i drafnidiaeth gyhoeddus (bysiau) symud yn well ac yn fwy effeithlon a gwella capasiti teithio llesol yng nghanol y ddinas. Wedi'i ragweld yn wreiddiol i gostio £18.9 miliwn, mae hyn wedi gostwng i £15.2 miliwn, gan fod arian grant arall wedi'i dderbyn ar gyfer rhan o'r cynllun.

  • Mesurau tacsis:Y bwriad ar y cychwyn oedd darparu cyllid i helpu gyrwyr tacsis i brynu cerbydau hybrid neu drydan. Yn dilyn cyngor cyfreithiol, dim ond ar gyfer costau rhedeg/gweithredu cerbydau trydan neu hybrid y gellir darparu cyllid. Gosodwyd targed i 30% o'r fasnach mewn tacsis newid i gerbydau hybrid neu drydan drwy'r polisi tacsi diwygiedig. Amcangyfrifwyd y byddai'n costio £5.5 miliwn yn wreiddiol, ac mae hyn bellach wedi gostwng i £1.86 miliwn.

  • Gwelliannau i Deithio Llesol:Mae'r cais am gyllid ar gyfer teithio llesol wedi lleihau o'r amcangyfrif cychwynnol o £4.2 miliwn i £1.28 miliwn. Mae hyn oherwydd arian grant llwyddiannus sydd wedi'i sicrhau drwy grant arall ers i'r achos busnes amlinellol gael ei lunio.

Meddai'r Cynghorydd Caro Wild hefyd: "Iechyd pobl yng Nghaerdydd yw ein prif flaenoriaeth drwy gydol y broses hon, ac er gwaethaf amserlenni tynn a phrosesau technegol cymhleth, yr wyf yn falch ein bod wedi bodloni'r holl derfynau amser a osodwyd a buom yn rhagweithiol wrth ddod i'n cynllun terfynol â Llywodraeth Cymru.

"Mae'r Project wedi archwilio nifer sylweddol o fesurau y gellid eu rhoi ar waith. Mae'r mesurau hyn bellach wedi'u cyfyngu i'r rhestr fer o gynlluniau y gwyddom y byddant yn gweithio. Bydd y cynlluniau a gynigir nid yn unig yn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol ond hefyd yn lleihau'n sylweddol y swm o NO2a llygrynnau allweddol eraill yng nghanol y ddinas a fydd yn gwella ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd yn sylweddol.

"Mae canllaw gan Gyd Uned Ansawdd Aer Llywodraeth y DU yn nodi'n glir y dylid ond sefydlu parth aer glân lle codir tâl os nad yw dewisiadau eraill heb dâl yn ddigonol er mwyn sicrhau cydymffurfio yn yr amser byrraf posibl.

"Drwy'r holl fodelu sydd wedi digwydd, bydd y mesurau arfaethedig yn cyflawni cydymffurfiad yn gyflymach na pharth aer glân, yn ogystal â dod â gwelliant llawer ehangach i ansawdd aer ar draws ffiniau'r ddinas.

"Mae'r Cyngor eisoes wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mesurau arfaethedig a chafwyd cefnogaeth ysgubol i'r project. Bydd ymgynghoriad pellach ar gynlluniau unigol yn cael ei gynnal yn unol â'r gofynion statudol. "

"Derbynnir na fydd y gwelliannau angenrheidiol i'r rhwydwaith ffyrdd yng nghanol y ddinas yn gyfleus tra bydd y gwaith yn digwydd, ond mae'n hanfodol gwneud y gwelliannau hyn er mwyn sicrhau ei bod yn haws, yn fwy diogel ac yn dod yn ddewis mwy deniadol i deithio ar fws, ar feic ac i'r rhai sydd am gerdded."

Gofynnir i'r Cabinet gymeradwyo'r mesurau a nodir yn y cynllun terfynol, cymeradwyo'r ymgynghoriad statudol sydd ei angen ar y gwelliannau i ffyrdd canol y ddinas yn ogystal â chymeradwyo'r prosiect i dendro contractwr ar gyfer cynlluniau cam cyntaf canol y ddinas yn y Sgwâr Canolog, Stryd y Castell a Rhodfa'r Orsaf.