Back
Ysgolion yn cydweithio i ennill lle yn rownd derfynol yr Eisteddfod

 

 


Mae Ysgol Gynradd Gladstone wedi cyrraedd rownd derfynol Eisteddfod yr Urdd yn y categori Adrodd i Ddysgwyr.

Bydd y grŵp o ddisgyblion Blwyddyn Chwech o'r ysgol gynradd Saesneg yn Cathays nawr yn perfformio'r darn‘Rap Rheolau'gan Aled Richards yn y rownd derfynol ar 28 Mai 2019 ar ôl llwyddo mewn dwy rownd ragbrofol.

Mae'r plant 10 ac 11 oed, nad oes yr un ohonynt yn siarad Cymraeg, wedi cael eu cefnogi gan blant Blwyddyn Chwech o Ysgol Mynydd Bychan, sydd wedi'u helpu drwy gydol yr ymarferion gydag ynganu, ystumiau a'u sgiliau Cymraeg.

Dywedodd athro Blwyddyn Chwech yn Ysgol Gynradd Gladstone, Miss Sue Watson:"Rydym wrth ein bodd o gyrraedd y rownd derfynol ac rydym yn ddiolchgar i blant a staff Ysgol Mynydd Bychan am eu hamser a'u cefnogaeth yn ystod y paratoadau.

"Mae hon wedi bod yn bartneriaeth wych rhwng y ddwy ysgol, ac mae cyrraedd y cam nesaf yn dangos pa mor galed mae'r plant wedi gweithio, i gyd gyda'i gilydd."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, "Dyma enghraifft wych o gydweithio llwyddiannus rhwng ysgolion. Dylai'r ddwy set o blant fod yn falch iawn fod Gladstone wedi ennill lle yn y ffeinal.Pob lwc blant!"