Gorchmynnwyd gyrrwr tacsi Cerbyd Hacni, Abdul Rehman o Clydach Street yn Grangetown, Caerdydd, i dalu bron i £1,000 yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau diwethaf (Ionawr 17) am dair trosedd.
I ddechrau, am fethu â defnyddio’r mesurydd, yn ail am godi mwy na’r pris awdurdodedig ac yn olaf am fethu ag arddangos ei fathodyn gyrrwr.
Er bod y diffinydd o gymeriad da yn flaenorol, nid oedd Rehman yn ‘dyst credadwy’ yn ôl yr Ynadon ac fe’i cafwyd yn euog o’r tri chyhuddiad.
Dywedodd y Cyng Norma Mackie, Cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn y Cyhoedd:
“Mae’r Cyngor yn cydnabod fod y rhan fwyaf o yrwyr tacsi yn cynnig gwasanaeth hanfodol i sicrhau fod y cyhoedd yn gallu cyrraedd adref yn ddiogel wedi noson allan. Pan wneir cwynion, byddwn wastad yn ymchwilio ac yn cymryd camau ffurfiol os caiff tystiolaeth ei gofnodi a’i gyflwyno i ni. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnal ymarferion siopa cudd.
“Rydym yn falch fod y Llys wedi codi dirwy
sylweddol am y troseddau hyn ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gweithredu fel
rhybudd i yrwyr eraill a allai gael eu temtio i weithredu y tu hwnt i amodau eu
trwyddedau.
“Gofynnwn i unrhyw un sydd am wneud cwyn yn
erbyn gyrrwr ac sy’n barod i roi eu tystiolaeth ger bron y pwyllgor, i gysylltu
a ni fel y gallwn weithredu.
“mae
angen peth manylion arnom, megis rhif y gyrrwr (ar fathodyn ar y ffenest
flaen), neu’r rhif cofrestru, dyddiad ac amser y digwyddiad ac adrodd amdano
wrth mailto:trwyddedu@caerdydd.gov.uk
“Os na fydd yr Adran Drwyddedu yn derbyn digon
o wybodaeth ni allant gymryd unrhyw gamau, felly sicrhewch eich bod yn adrodd
am y digwyddiadau hyn cyn gynted ag y bo modd.”
Cafodd Mr Rehman ddirwy o
£360, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £600 a gordal dioddefwr o £30.