Back
Lladradau gridiau gwli ym mis Ionawr yn unig


Gwelwyd cyfres bellach o ladradau y mis hwn, wedi i apêl gyhoeddus y llynedd roi terfyn dros dro ar weithgaredd anghyfreithlon y lladron.

Ers 8 Ionawr, mae 76 o gridiau gwli wedi eu dwyn a'u hadnewyddu ar gost arfaethedig i'r trethdalwr o £20,000.

Digwyddodd y lladradau mewn wardiau ledled y ddinas gan gynnwys Cyncoed, Tredelerch, Llanisien, Pen-y-lan, y Rhath, Pontprennau, Draenen Pen-y-graig, y Tyllgoed, Llaneirwg a Radur.

Gyda gwerth haearn bwrw fel metel sgrap rhwng £100 a £160 y dunnell, a phob grid yn pwyso 45kg, y mwyaf y mae'r lladron wedi ei wneud o'r lladradau hyn yw £340.

Pan gaiff gridiau eu dwyn, rhaid i'r cyngor wneud yr ardal yn ddiogel, torri'r hen gratiau yn rhydd ac yn eu lle osod gratiau newydd sy'n cloi, ac mae gwaith a amserlenwyd ar gyfer staff yn gorfod oedi, er mwyn i'r gwaith hwn gael mynd rhagddo.

Mae'r Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yn gofyn i'r cyhoedd fod yn wyliadwrus ac i adrodd am unrhyw weithgaredd amheus wrth Heddlu De Cymru ar rif 101.

Dywedodd y Cynghorydd Wild:"Mae dau fater yma.I ddechrau, o safbwynt diogelwch, mae'r lladradau yn gadael tyllau mawr yn y ddaear sy'n beryglus i yrwyr a cherddwyr.Yn ail, mater y gost i'r trethdalwr a'r adnoddau staff sy'n rhaid eu neilltuo er mwyn cwblhau'r gwaith.

"Os bydd unrhyw un yn gweld rhywun yn tynnu'r gridiau hyn, yna adroddwch amdano wrth yr Heddlu.Hyd yn oed os ydyn nhw yn gwisgo siacedi llachar ac yn edrych fel petaent yno'n swyddogol, peidiwch â mynd atynt, ond nodwch fanylion y lleoliad, rhif cofrestru'r cerbyd maen nhw'n ei ddefnyddio a disgrifiad byr o'r rhai sy'n troseddu ac adrodd amdano wrth 101."

Mae gofyn i fasnachwyr metel sgrap ddilyn y weithdrefn gywir yn unol â'r gyfraith wrth brynu a gwerthu sgrap.Mae'n anghyfreithlon prynu neu werthu sgrap am arian parod ac mae'n rhaid i daliadau gael eu gwneud trwy drosglwyddiad electronig neu siec fel bod trywydd archwilio o'r taliadau a wnaed.

Mae gofyn i'r rheiny sy'n prynu neu werthu sgrap gael trwydded gan yr awdurdod lleol i weithredu ac i gadw cofnodion o ddisgrifiadau o'r nwyddau sy'n cael eu prynu a'u gwerthu.

(Diwedd)

 

Ymgynghorydd y Cyfryngau Cyngor Caerdydd Ian Lloyd-Davies 

Ffôn:029 2087 2969

E-bost:ILloyd-Davies@caerdydd.gov.uk