Back
nextbike i ddyblu yng Nghaerdydd

Mae disgwyl i gynllun rhannu beiciau poblogaidd Caerdydd ddyblu y flwyddyn nesaf gyda 500 o feiciau ychwanegol, yn ôl gweithredwr y cynllun, nextbike.

Bydd yr ehangu hwn yn ychwanegu 65 o orsafoedd docio at y rhwydwaith bresennol ledled y ddinas, gyda hyd at 10 o swyddi ychwanegol yn cael eu creu i wasanaethu'r beiciau ychwanegol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Cynaliadwy a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild:"Mae Caerdydd yn amlwg wedi syrthio mewn cariad â nextbike. Yn dilyn nifer sylweddol o geisiadau am ragor o orsafoedd a beiciau, rwy'n falch o gyhoeddi y bydd y cynllun yn dyblu mewn maint unwaith yn rhagor. Erbyn yr haf, bydd dros 1000 o feiciau mewn dros 120 o orsafoedd docio mewn wardiau ar draws y ddinas.

"Mae llwyddiant y cynllun yng Nghaerdydd yn parhau i dyfu ac yn brawf pellach y gall Caerdydd ddod yn un o'r dinasoedd beicio gorau yn y DU. Bydd ein hymrwymiad i wella seilwaith feicio'r ddinas hefyd yn cael ei wireddu, gyda disgwyl newyddion pellach ar y traffyrdd beicio cyn bo hir."

A datgelodd penaethiaid nextbike uchelgais i gyflwyno beiciau hygyrch i'r cynllun fel rhan o'r ehangu er mwyn gwella mynediad i bobl ag anableddau. Os bydd yn llwyddiant, dyma fyddai'r cynllun rhannu beiciau dinesig cyntaf yn y DU i gynnig beiciau o'r fath law yn llaw â beiciau traddodiadol.

Bydd cynllun Beiciau i Bawb â chymhorthdal sylweddol ar gyfer aelodaeth blynyddol i bobl o gefndiroedd difreintiedig yn cael ei gynnig ledled y ddinas.

Bydd beiciau newydd yn cael ei ychwanegu o wanwyn 2019, gyda disgwyl i'r 500 cyfan fod wedi eu gosod erbyn diwedd yr haf.

Mae'r ehangu wedi ei wneud yn bosib trwy fuddsoddiad o £800,000 gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio dros yr wythnosau nesaf i ofyn i'r cyhoedd lle hoffent weld y gorsafoedd docio newydd yn cael eu lleoli.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr  nextbike, Julian Scriven, ei fod wedi ei gyffroi dros bobl Caerdydd y byddai'r cynllun yn dyblu.

"Mae'r galw i rannu beiciau yng Nghaerdydd wedi bod yn aruthrol ers i ni lansio gyda 25 o feiciau ym mis Mawrth. Mae'r gymuned wedi croesawu'r cynllun yn llwyr ac, i raddau helaeth, y galw gan y cyhoedd sy'n gyfrifol am dwf aruthrol y cynllun sy'n ddisgwyliedig," meddai.

"Mae Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a nifer o randdeiliaid eraill hefyd wedi dangos ymrwymiad anhygoel i alluogi Caerdydd i wireddu ei huchelgais i ddod yn un o ddinasoedd beicio gorau'r DU.

"Ein dyhead erioed fu gwneud y cynllun mor hygyrch ag y bo modd i'r gymuned gyfan, sy'n esbonio ein cyffro o fod yn cyflwyno Beiciau i Bawb i'r ddinas. Rydym hefyd mewn trafodaethau cynnar o ran sut i gynnwys beiciau hygyrch yn y fflyd, a fyddai'r tro cyntaf i hynny ddigwydd mewn cynllun llogi beiciau mewn unrhyw ddinas yn y DU.

"Rydym nawr yn awyddus i glywed gan aelodau'r cyhoedd i ganfod lle hoffen nhw weld y gorsafoedd newydd yn cael eu lleoli er mwyn sicrhau ein bod yn ateb anghenion y gymuned".

Cynllun Caerdydd fu lansiad mwyaf llwyddiannus nextbike yn y DU ers dechrau ar y gwaith yn y DU yn 2014. Wedi ei gefnogi gan Gyngor Caerdydd a chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, cyflwynwyd nextbike i leihau tagfeydd, rhyddhau mannau parcio a chynnig dull mwy iach o deithio ar hyd a lled y ddinas.

Mae nextbike wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd ar hyd pob cam o'r broses gynllunio, gan sicrhau bod pob gorsaf yn ateb galw'r boblogaeth.

Ac mae'r elusen feicio leol Pedal Power wedi ei chyflogi fel y tîm gwasanaethu, i reoli'r gwaith cynnal a chadw ac ail-falansio'r beiciau.