Back
Talu teyrnged i’r Cynghorydd Jim Murphy

Mae'r byd gwleidyddol wedi bod yn talu teyrnged i un o Gynghorwyr Caerdydd, Jim Murphy, a gollodd ei frwydr hir a dewr â phroblemau iechyd difrifol fore dydd Sadwrn (1 Rhagfyr).

Etholwyd y gŵr 72 oed, a fu'n gweithio i Allied Steel & Wire cyn dod yn gynghorydd Llafur, yn 2012 i gynrychioli ward Trelái lle chwaraeodd rôl weithgar yn y gymuned yn gwasanaethu fel llywodraethwr yn ysgolion cynradd Hywel Dda a Windsor Clive.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Clywais gyda thristwch mawr fod y Cynghorydd Jim Murphy wedi ein gadael ni ar ôl brwydro problemau iechyd difrifol dros y 18 mis diwethaf.

 "Hoffwn gyfleu ein cydymdeimladau dwysaf i'w wraig Jeanette ac i blant, wyrion a gor-wyrion Jim.

 "Roedd Jim yn ŵr teulu i'r carn, yn gennad i'w gymuned ac yn gynghorydd lleol ymroddedig i Drelái. Ers iddo gael ei ethol i'r cyngor yn 2012, chwaraeodd rôl weithgar iawn yn y gymuned, ac roedd ei frwdfrydedd dros ei waith a'r bobl yr oedd yn eu gwasanaethu i'w weld yn amlwg ym mhopeth a wnaeth. Dwi'n gwybod bod ei gyd-gynghorwyr ward, Susan Goddard a Russell Goodway, a fu'n gweithio ochr yn ochr â Jim am flynyddoedd, wedi'u hysgwyd gan y golled hefyd."

Roedd y Cynghorydd Murphy yn ymroddedig i'w waith ac yn aelod o saith o bwyllgorau'r Cyngor. Gwasanaethodd fel Cadeirydd y Pwyllgor Apeliadau; Dirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a'r Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd; aelod o'r Pwyllgor Polisi, Perfformiad ac Adolygu; aelod o'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc; aelod o Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ac aelod o'r Pwyllgor Cynllunio.

Dywedodd Arweinydd y Grŵp Ceidwadwyr, y Cynghorydd Adrian Robson:"Roedd y Ceidwadwyr yn drist iawn i glywed bod Jim wedi marw. Roedd nifer o aelodau yn ffrindiau da gyda Jim gan ei fod wedi eistedd ar nifer o bwyllgorau Cyngor. Roedd e wastad yn cefnogi ei etholwyr yn Nhrelai a gyda mwy o ddiddordeb mewn gweithio iddyn nhw a dinasyddion Caerdydd na sgorio pwyntiau gwleidyddol. Roedd pawb yn ei barchu a byddwn yn ei golli yn y siambr."

Dywedodd Arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, y Cynghorydd Joe Boyle: "Doedd Jim byth eisiau'r sylw ei hun - roedd popeth am y rheini yr oedd yn gweithio mor galed i'w cynrychioli. Bydd y sawl a oedd yn ddigon ffodus i'w nabod yn ei gofio am ei ymrwymiad, yn arbennig i'w ward, am ei gyfeillgarwch ac am ei garedigrwydd."

Dywedodd Arweinydd grŵp Plaid Cymru, y Cynghorydd Keith Parry: "Roedd grŵp Plaid Cymru yn flin iawn o glywed y newyddion trist am farwolaeth Jim. Roedd yn gynghorydd uchel ei barch a hoffus iawn yn ei ward, a gwnaeth gyfraniad sylweddol at y ddinas."

Bydd angladd y Cynghorydd Murphy am 10.45am ddydd Llun 17 Rhagfyr yn Eglwys Dewi Sant, Heol Orllewinol y Bont-faen.