Back
Taith storїau’r swffragetiaid i nodi canmlwyddiant y bleidlais i fenywod

 

Bydd y frwydr am bleidlais i fenywod a straeon menywod lleol oedd yn gysylltiedig â'r achos yn cael ei hadrodd yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd ar draws y ddinas yn ystod mis Rhagfyr.

 

I nodi 100 mlynedd ers etholiad cyffredinol 1918, y cyntaf y gallai menywod bleidleisio ynddo yn dilyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl, gall teuluoedd ar draws y ddinas archwilio'r digwyddiadau hanesyddol a arweiniodd at y bleidlais ar helfa drysor o amgylch llyfrgelloedd a hybiau.

 

Gan arddangos y cyfoeth o adnoddau yng nghasgliad astudiaethau lleol y ddinas yn Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays, gan gynnwys hen gofnodion, ffotograffau, mapiau a phapurau newydd, bydd y llwybr yn mynd ag ymwelwyr ar daith a oedd yn cynnwys gorymdeithiau torfol yn Hyde Park, cyfarfodydd a phrotestiadau i weithredoedd unigol a gyflawnwyd gan fenywod o Gaerdydd, i gyd gyda'r nod o roi'r hawl i fenywod bleidleisio.

 

Bydd wyth pwynt gwybodaeth wedi'u cuddio o amgylch yr hybiau a'r llyfrgelloedd yn datgelu gwybodaeth gyda lluniau neu eitemau o'r Llyfrgell Dreftadaeth sy'n ymwneud â hawliau merched a hawl merched i bleidleisio.Mae angen i deuluoedd ddarllen y wybodaeth ac ateb y cwestiynau'n gywir yn y llyfr pleidlais i fenywod, er mwyn ennill gwobr fach.

 

Gall pawb sy'n cymryd rhan yn y llwybr o Ragfyr 3-31 hefyd gymryd rhan mewn raffl ledled y ddinas.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Bydd yr helfa drysor yn ein llyfrgelloedd a'n hybiau'r mis nesaf yn gyfle gwych i deuluoedd gael gwybod am foment mor ddiffiniol yn hanes ein gwlad - y penderfyniad i roi'r bleidlais i fenywod a'r etholiad cyffredinol cyntaf ar 14 Rhagfyr, 1918 ble roedd menywod yn gallu arfer yr hawl honno.

 

"Ceir cyfoeth o wybodaeth a chofnodion yn ein casgliad o astudiaethau lleol yn Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays am y digwyddiadau a arweiniodd at yr etholiad ym mis Rhagfyr 1918.Bydd y gweithgareddau yn ein canolfannau a'n llyfrgelloedd yn ffordd ddiddorol a hwyliog o archwilio'r adnoddau gwerthfawr hyn a, gobeithio y byddant yn annog pobl i ddysgu mwy ac ymweld â'r Llyfrgell Dreftadaeth eu hunain. "

 

Yn ogystal â'r helfa drysor ym mhob un o lyfrgelloedd a hybiau'r ddinas, bydd Hyb Trelái a Chaerau a Llyfrgell Rhydypennau hefyd yn cynnal arddangosfeydd o luniau a deunyddiau eraill sy'n ymwneud â'r achos pleidlais i fenywod.