Back
'Does dim angen cysgu yn yr awyr agored’


  • Mae'r Cyngor yn helpu llawer o bobl sy'n ddigartref ac mae ystod o ddarpariaeth ar gael, nid oes angen i unrhyw un gysgu yn yr awyr agored. 
  • Mae mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn y ddinas yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i roi ein Strategaeth Cysgwyr ar y Stryd ar waith, gan gynnwys model 'Tai'n Gyntaf' sy'n symud cysgwyr ar y stryd o'rstrydoedd i'w cartref eu hunain.

 

  • Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag unigolion i'w cefnogi i gael mynediad at wasanaethau ac mae ein tîm Allgymorth yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos yn ystod y dydd a gyda'r nos i ymgysylltu â phobl sy'n cysgu ar y stryd neu sydd mewn perygl o gysgu ar y stryd.

 

  • Y llynedd helpon ni 204 unigolyn i ddod oddi ar y stryd ac i gael llety.

 

 

  • Rydym hefyd yn gweithio gydag elusennau digartref megis Huggard, Byddin yr Iachawdwriaeth, Wallich a'r YMCA i ddarparu llety hostel, canolfan ddydd i'r digartref a gwasanaeth bws gyda'r nos.

 

  • Mae ystod eang o wasanaethau cyfannol ar gael bob dydd i unigolion gan gynnwys gwasanaethau alcohol, cyffuriau a meddygol, ynghyd â gwasanaethau llety

 

  • Ar y cyfan rydym yn darparu 216 o leoedd hostel i bobl ddigartref sengl a 78 o welyau argyfwng a 390 o unedau llety a gefnogir.Yn ystod y gaeaf, mae gwelyau argyfwng ychwanegol -  110 lle ychwanegol ar gyfer y gaeaf hwn.

 

  • Yn aml mae gan unigolion sy'n cysgu ar y stryd broblemau eithriadol gymhleth ac mewn rhai achosion maent yn penderfynu peidio â chael mynediad at ein llety, yn lle cysgu ar y stryd am lawer o flynyddoedd.Hyd yn oed yn ystod yr amodau mwyaf garw fel yr eira trwm ar ddechrau'r flwyddyn, parhaodd llawer o unigolion i gysgu ar y stryd.Yn yr achosion hyn, mae ein tîm Allgymorth yn gweithio'n uniongyrchol â nhw bob dydd.

 

  • Mae cyllid ar gyfer tîm amlddisgyblaethol i weithio gyda chysgwyr ar y stryd anodd eu cyrraedd wedi'i sicrhau'n ddiweddar.Bydd y tîm yn cynnwys nyrs iechyd meddwl, gwasanaeth cwnsela dynodedig a mwy o gymorth gyda chamddefnyddio sylweddau.

 

  • Rydym wedi datblygu gwasanaeth eiriolaeth gyda phartneriaid i helpu unigolion sy'n cysgu ar y stryd am gyfnodau ysbeidiol a phatrwm o gael eu troi allan a gadael lleoliadau.

 

  • Mae tua 40% o'r bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd yn dod o'r tu allan i'r ddinas ac nid oes ganddynt gysylltiad lleol.Mae hyn yn arwain at bwysau ychwanegol ar wasanaethau.Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i'r ateb iawn i bob unigolyn a, lle bo'n briodol, yn eu helpu i ailgysylltu â'u hardal gartref.