Back
Enwau strydoedd newydd i adlewyrchu'r dreftadaeth leol

 

Dylai strydoedd newydd a datblygiadau yn y dyfodol dderbyn enwau sy'n adlewyrchu treftadaeth leol, gan sicrhau bod cyswllt hanesyddol, diwylliannol ac ieithyddol â'r ddinas.

 

Mae polisi enwi drafft sy'n amlinellu'r bwriad i fabwysiadu enw Cymraeg, yn gyson â

threftadaeth leol a hanes ardal, ar strydoedd newydd wedi ei ddatblygu gan y Cyngor i gynnig cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr a pherchnogion eiddo presennol.

 

Bydd y polisi, sy'n amlinellu ymrwymiad y Cyngor i weithio tuag at niferoedd cydradd rhwng

enwau strydoedd Saesneg ac enwau Cymraeg yn y ddinas, yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 15 Tachwedd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd, y Cyng Caro Wild: "Mae cefndir hanesyddol hynod gan Gaerdydd felly mae'n bwysig fel bo'r ddinas yn tyfu, ein bod yn cydnabod a gwarchod y dreftadaeth drwy sicrhau bod i enwau strydoedd newydd gyd-destun lleol a hanesyddol.

 

"Mae i'r enwau a roddwn ar strydoedd a datblygiadau newydd ran allweddol i'w chwarae yn y syniad o greu lle ac wrth i ni weithio tuag at ddod yn ddinas gwirioneddol ddwyieithog, mae'n hanfodol bod yr uchelgais honno'n cael ei hadlewyrchu mewn enwau penodol sydd ag arwyddocâd iddynt ac sy'n perthyn i'r ardaloedd o'n cwmpas."

 

Mae i enwi a rhifo strydoedd ac eiddo sawl swyddogaeth bwysig gan gynnwys cyfeirio'r modd y byddwn yn crwydro ar hyd y ddinas, sicrhau dosbarthu effeithiol ar y post a sicrhau bod y gwasanaethau brys yn gallu dod o hyd i eiddo yn gyflym.

 

Mae enwi strydoedd hefyd yn bwysig yng nghyd-destun ymrwymiad y Cyngor i safonau'r

Gymraeg a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n cynnwys y nod llesiant cenedlaethol o ‘Gymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu'. Bydd sicrhau bod enwau strydoedd yng Nghaerdydd yn adlewyrchu'r dreftadaeth leol yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni'r nod hwn.

 

Yn hanesyddol, mae prif lwybrau i mewn i'r ddinas, Canol y Ddinas a Bae Caerdydd wedi bod ag enwau Cymraeg a Saesneg ar arwyddion enwau strydoedd, ond y tu hwnt i'r ardaloedd hyn, does dim rheidrwydd i enwau strydoedd fod yn ddwyieithog.

 

Bydd y Cyngor yn galw ar arbenigedd academyddion allanol wrth bennu enwau strydoedd

Cymraeg newydd. Bydd unrhyw arwydd stryd dwyieithog yn dangos yr enw Cymraeg uwchben y Saesneg pan fydd angen adnewyddu arwydd neu gael arwydd newydd .

 

Os caiff ei gytuno gan y Cabinet, bydd y polisi enwi strydoedd yn mynd allan i ymgynghori arno cyn cymeradwyo'r polisi terfynol.