Back
Pam fod y Cyngor yn ystyried mesurau i wella ansawdd yr aer yng Nghaerdydd?

Pam fod y Cyngor yn ystyried mesurau i wella ansawdd yr aer yng Nghaerdydd?

Heriwyd Llywodraeth Cymru ynghyd â llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill yn yr Uchel Lys gan ClientEarth ynghylch lefelau gormodol o Nitrogen Diocsid (NO2) mewn rhai rhannau o'r DU, gan gynnwys Cymru. Bu ClientEarth yn llwyddiannus yn yr achos llys ac ym mis Ionawr 2018 gwnaeth Llywodraeth Cymru gytundeb cyfreithiol gyda ClientEarth i gymryd camau i dynnu'r lefelau NO2 i lawr i'r lefelau a ganiateir ‘yn yr amser byrraf posibl'.

Beth sydd gan Gaerdydd i'w wneud â hynny?

Yn unol â'r cytundeb â ClientEarth, cyfarwyddodd Llywodraeth Cymru Gaerdydd yn gyfreithiol i gynnal astudiaeth yn y ddinas i ganfod sut y gellir lleihau lefelau NO2‘yn yr amser byrraf posibl'.

Beth oedd canlyniad yr astudiaeth i lygredd NO2 yn y ddinas te?

Nododd yr astudiaeth gychwynnol, erbyn 2021, y bydd Stryd y Castell yn torri Cyfarwyddeb yr UE

Beth fydd y datrysiad?

Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto ar y modd gorau i ddatrys y broblem. Fodd bynnag, mae Cyngor Caerdydd wedi derbyn cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu opsiwn a ffafrir a fydd yn mynd i'r afael â lefelau NO2yn y strydoedd sydd wedi eu heffeithio yn yr amser cyflymaf posib. Bydd angen datblygu amlinelliad o achos busnes ar gyfer yr opsiwn a ffafrir yn unol ag arweiniad y llywodraeth.

Am ba fath o ddewisiadau neu fesurau ydyn i'n sôn a allai ostwng lefelau NO2 nad sy'n cynnwys Parth Aer Glân sy'n codi tâl?

Yn unol â Phapur Gwyrdd diweddar y Cyngor ar Drafnidiaeth ac Aer Glân, rydym yn awyddus i annog dulliau teithio mwy cynaliadwy ac actif. Y mesurau a amlinellwyd yw:

  • Rhoi cyfyngiadau cyflymder pellach ar waith, ehangu'r ardaloedd 20MYA presennol.
  • Datblygu traffyrdd beicio a'r cynllun nextbike.
  • Cynyddu'r nifer o fysiau allyriadau sero ar rwydwaith Caerdydd
  • Gwella polisi trwyddedu tacsis i osod safonau allyriadau sylfaenol ar gerbydau
  • Gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, beicwyr a cherddwyr o'r orsaf fysus newydd a'r ffyrdd yn nolen canol y ddinas
  • Cynyddu nifer y lonydd bysiau i annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a gwneud teithio ar fws yn gynt a mwy dibynadwy
  • Gwella signalau traffig a dulliau eraill o reoli traffig i roi mwy o flaenoriaeth eto i symudiadau bysiau
  • Cyflymu rhaglenni Parcio a reidio yn y Gogledd orllewin a Gogledd Ddwyrain Caerdydd
  • Gwella a hyrwyddo'r defnydd o gerbydau allyriadau isel drwy fuddsoddi yn seilwaith gwefru trydanol Caerdydd

Mae'r mesurau hyn wedi eu dewis oherwydd yr ystyrir mai hwy yw'r rhai mwyaf tebygol y gall y Cyngor eu gwireddu mewn amser byr er mwyn cyflawni'r gwelliannau yn yr amser byrraf posib.

Beth sy'n cael ei wneud i helpu pobl i fabwysiadu teithio llesol?

Mae nifer o welliannau eisoes ar y gweill:

  • Mae cynlluniau uchelgeisiol gan Gyngor Caerdydd i wella llwybrau cerdded a beicio ar draws y ddinas dros y 3 blynedd nesaf.
  • Mae cynllun llogi beiciau cyhoeddus nextbike wedi dangos y galw a ddaliwyd yn ôl ar gyfer beicio yn y Ddinas, ac mae wedi bod yn hynod lwyddiannus. Mae dros 10,000 o huriadau beics yn cael eu gwneud bob wythnos, gyda dros 30,000 wedi cofrestru i ddefnyddio'r beics. Maen nhw'n wych yn lle teithiau byr o amgylch y ddinas y byddech wedi eu gwneud mewn car yn y gorffennol, ac mae'n hawdd, cyflym ac yn hwyl.
  • Yn ddiweddar cyflwynodd Bws Caerdydd ddull talu digyffwrdd - os nad ydych wastad yn cario newid mân yn eich poced gall hyn wneud gwahaniaeth aruthrol gan eich bod yn gallu tapio i dalu wrth esgyn i'r bws.
  • Metro De Cymru - bydd datblygiad y Metro dros y 5 mlynedd nesaf yn gweld cynnydd o ran amlder trenau, gorsafoedd newydd, a cherbydau newydd ac ychwanegol gyda mwy o le ar gyfer beics.

Mae cynigion ychwanegol wedi eu disgrifio ymMhapur Gwyrdd <https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/papur-gwyrdd-trafnidiaeth-ac-aer-glan/Pages/default.aspx>Cyngor Caerdydd.

Trwy'r cynlluniau hyn mae bwriad i drawsnewid system drafnidiaeth Caerdydd dros y 5 mlynedd nesaf yn un addas i'r G21, gan gymharu â dinasoedd arweiniol eraill o amgylch y byd. Byddai hyn yn rhywbeth y gallem oll fod yn wirioneddol falch ohono - yn ogystal â helpu i wella ansawdd yr aer i bawb sydd yn byw, gweithio ac ymweld â'r ddinas.

Beth yw Parth Aer Glân y gellir codi tâl arno a sut mae hwn y wahanol i Dâl Atal Tagfeydd?

Mae Parth Aer Glân (PAG) yn ddull newydd y mae'r llywodraeth ganolog yn ei gynnig er mwyn helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â llygredd aer. Mae'n ardal wedi ei diffinio'n ddaearyddol sy'n gofyn bod perchnogion cerbydau sy'n llygru yn talu wrth fynd i'r ardal neu'n symud o fewn y parth neu wahardd rhai cerbydau rhag dod i mewn yn gyfan gwbl. Mae'r taliad yn seiliedig ar safonau cerbydau Ewropeaidd fel mai'r cerbydau sy'n llygru fwyaf a gaiff eu targedu.

Gellir cael mwy o wybodaeth ar y lefelau a osodir gan y llywodraeth yn nrafft Llywodraeth Cymrufframwaith Parth Aer Glân sy'n gosod yr egwyddorion ger bron i'w dilyn pan fo awdurdod lleol yn ystyried PAG yng Nghymru.

Mae tagfeydd a llygredd aer yn gysylltiedig ond nid yr un peth ydynt. Mae Parthau Aer Glân wedi eu dylunio i wella ansawdd yr aer i ateb gofynion cyfreithiol ac felly yn canolbwyntio ar fynd i'r afael a cherbydau sy'n llygru. Nid yw tâl i atal tagfeydd yn gwahaniaethu rhwng cerbydau ar sail llygredd, ond yn hytrach yn ceisio cwtogi ar gyfanswm nifer y cerbydau sydd ar y ffordd mewn ardal benodol. Mae'n bosib yn wir y byddai Parth Aer Glân yn cael effaith ar dagfeydd, ond dim ond yn y tymor byr y byddai hyn yn debygol wrth i gerbydau gael eu huwchraddio'n gerbydau glanach neu wrth i bobl addasu eu dewisiadau teithio.

Mae cerbyd disel gen i. Rwy'n deall mai cerbydau disel sydd yn bennaf gyfrifol am lygredd NO2. A fydd tâl yn cael ei godi arnaf neu a gaf fy atal rhag gyrru yn y ddinas?

Nid oes penderfyniad wedi ei wneud a fydd Caerdydd yn cyflwyno PAG ai peidio. Mae'n bosib y bydd mesurau eraill ac uwchraddio cerbydau allyriadau isel yn golygu na fydd angen PAG ar y ddinas. Bydd hyn oll yn cael ei benderfynu gan ganlyniadau'r astudiaeth ddichonolrwydd sydd yn dal i fynd rhagddi. Hyd yn oed pe byddai PAG yn cael ei gyflwyno, ni fyddai taliadau yn effeithio ar bob cerbyd, dim ond y rhai hynny nad sy'n cydymffurfio â'r lefelau a osodir gan y llywodraeth. Mae drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn rhoi manylion llawn ar y safonau allyriadau y bydd disgwyl i gerbydau eu cyrraedd ar gyfer mynediad dilyffethair i PAG, ond yn gyffredinolni fyddai tâl yn cael ei godiar gerbydau Euro 4 petrol (tua 2006) neu ddisel Euro 6 (tua 2015) nac ar gerbydau trydan neu gerbydau Allyriadau Isel eraill er mwyn cael dod i mewn i'r parth.

Pwy fydd yn gwneud y penderfyniad ar y ffordd orau i fwrw ymlaen?

Bydd yr achos busnes terfynol yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer y Cyngor. Rhaid i'r datrysiad(au) a ddewisir fod yn gymesur â maint y broblem yng Nghaerdydd a bydd y Cabinet, ar sail y dystiolaeth a gaiff ei roi o'i flaen, yn penderfynu ar y dewis a ffafrir a fydd yn cael ei asesu yn yr achos busnes terfynol. Adroddir ar hyn i Lywodraeth Cymru ddim hwyrach na 30 Mehefin 2019, a bydd amserlen ar gyfer gweithredu'r dewis a ffefrir yn cael ei gytuno â Llywodraeth Cymru.

Beth yw'r amserlen ar gyfer y penderfyniad?

Rhaid cyflwyno'r achos busnes terfynol ar y dewis a ffefrir i Lywodraeth Cymru ddim hwyrach na 30 Mehefin 2019. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i wneud cais am gyllid i gyflwyno'r mesurau i ostwng lefelau NO2o dan y gofyn cyfreithiol cyn gynted ag y bo modd.

Sut fydd y cyhoedd a busnesau yn cael clywed?

Bydd y Cyngor yn datblygu cynllun cyfathrebu i gefnogi'r achos busnes ar y dewis a ffefrir. Bydd y gwaith hwn yn nodi'r holl randdeiliaid sydd â diddordeb mewn aer glân a defnyddir amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu er mwyn sicrhau fod y cyhoedd, busnesau a rhanddeiliaid eraill yn gallu cyfrannu ac yn wybodus a hynny mewn modd amserol.