Back
12 o bethau sydd angen i chi eu gwybod am gyllideb Cyngor Caerdydd ar gyfer 2019/20


  1. Mae Caerdydd yn tyfu. Dros y ddegawd ddiwethaf mae tua 34,600 o bobl wedi symud i fyw yma a disgwylir i boblogaeth y ddinas dyfu gan 20% erbyn 2038. Yn wir, dros yr 20 mlynedd nesaf disgwylir i boblogaeth eich prifddinas dyfu'n fwy na phob un o'r 21 awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda'i gilydd. Er bod twf yn dda i'r ddinas, mae hefyd yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus, seilwaith y ddinas, ei hysgolion a'i gwasanaethau cymdeithasol. Mae mwy o bobl yn golygu mwy o ddisgyblion a mwy o bobl hŷn sydd angen gofal. Nid yw cyllid y llywodraeth yn cyfateb i'r pwysau ychwanegol yma. Yn syml, mae gan Gaerdydd fwy o bobl i ofalu amdanynt a llai o arian i wneud hynny.

 

  1. Mae eich Cyngor yn wynebu bwlch cyllidebol o £35.2m yn y flwyddyn ariannol nesaf (2019/20) a bwlch cyllidebol o £92.9m dros y tair blynedd nesaf. Bwlch cyllidebol yw'r gwahaniaeth rhwng faint o gyllid sydd ar gael a faint sydd ei angen i gynnal gwasanaethau. Nid yw hon yn broblem newydd.  Mae'r Cyngor eisoes wedi gwneud bron i chwarter biliwn o arbedion cronnol dros y ddegawd ddiwethaf i bontio bylchau cyllidebol, ac mae 1,600 o gyflogeion llawn amser wedi gadael yr awdurdod fel rhan o'r arbedion cyllidebol hyn dros y chwe blynedd ddiwethaf.

 

 

  1. Flwyddyn nesaf mae gan y Cyngor gyllideb gyffredinol o £609m. Mae £397m o'r gyllideb hon yn gysylltiedig â gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion, lle mae'r galw'n parhau i dyfu. Dyw hi ddim yn hawdd gwneud toriadau mewn meysydd eraill o gyllideb y Cyngor, fel cymorth y Dreth Gyngor. Golyga hyn fod y rhan fwyaf o'r arbedion yn cael eu cyflawni mewn cyllidebau gwasanaeth sy'n dod i gyfanswm o ddim ond £113m. Mae'r £113m hwn yn cynnwys cyllidebau priffyrdd, gwastraff, parciau, staff cefn swyddfa a gwasanaethau anstatudol eraill. Y meysydd hyn sydd wedi dioddef fwyaf o doriadau dros y ddegawd ddiwethaf, a'r rhain fydd eto'n cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r arbedion y mae angen eu gwneud yn 2019/20 - tua 70%.

 

  1. Er bod y setliad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 ychydig yn fwy ffafriol na'r hyn a gyllidebom ar ei gyfer - cynnydd o 0.4% neu £1.658m yn ychwanegol - mae o hyd yn doriad mewn termau real oherwydd chwyddiant a phwysau cynyddol.  Golyga hyn y bydd yn rhaid i'ch Cyngor bontio bwlch cyllidebol o £35.2m y flwyddyn nesaf.

 

 

  1. Mae'r Cyngor nawr yn ymgynghori â phreswylwyr ar ei gynlluniau ar gyfer pontio'r bwlch hwnnw o £35.2m er mwyn galluogi llawer o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau anstatudol fel llyfrgelloedd a'r gwasanaeth ieuenctid, i barhau. Mae codi'r dreth gyngor a chynyddu costau am wasanaethau ymysg yr ychydig bethau y gall y Cyngor eu gwneud i bontio'r bwlch £35.2m.

 

  1. Er gwaethaf arbedion o bron i chwarter biliwn o bunnoedd dros y ddegawd ddiwethaf, mae Caerdydd yn parhau i orfod gwneud toriadau sylweddol er mwyn cau'r bwlch cyllidebol.  Isod gallwch weld sut mae'r Cyngor yn bwriadu cau'r bwlch cyllidebol hwnnw o £35.2m yn 2019/20.

 

 

  1. Gan warchod gwasanaethau rheng flaen, bydd yr awdurdod yn ceisio dod o hyd i £19m mewn arbedion ac incwm.

 

  1. Mae'r gyllideb yn cymryd y bydd y Dreth Gyngor yn codi gan 4.3%, cynnydd o 95 ceiniog yr wythnos ar eiddo Band D. Bydd hyn yn dod â £5.8m ychwanegol i'w osod yn erbyn y bwlch cyllidebol o £32.5m.

 

 

  1. Bydd y Cyngor yn defnyddio £2.5m o gronfeydd wrth gefn. Mae hwn yn arian sydd gan y Cyngor mewn banc, fel cynilion. Rhaid i ni gymryd gofal wrth ddefnyddio'r gronfa wrth gefn, oherwydd unwaith y mae wedi mynd, mae wedi mynd am byth.

 

  1. Bydd yr awdurdod hefyd yn defnyddio'r £4m y mae wedi rhoi o'r neilltu fel mecanwaith cadernid ariannol (FRM). Cafodd yr arian hwn ei roi o'r neilltu i helpu'r Cyngor i ddelio ag ansicrwydd ynghylch y lefel o gyllid y gallai ei chael gan Lywodraeth Cymru. Penderfynir ar gyllid y llywodraeth yn flynyddol, a gallai godi neu ostwng. Mae FRM yn fuddsoddiad untro sydd wedi'i ddylunio i helpu'r gyllideb os yw'r Llywodraeth yn rhoi llai na'r disgwyl.

 

 

  1. Yn y gyllideb mae'r Cyngor yn cynnig rhoi £10.2m ychwanegol i ysgolion yn 2019/2020 ar ben y £231m y maent eisoes yn ei gael. Mae hyn yn gynnydd o 4.4%. Fodd bynnag, mae niferoedd cynyddol o ddisgyblion, ynghyd â chyflog a chostau, yn golygu bod y gost ychwanegol o ddarparu addysg yn y ddinas yn tua £13.8m.

 

  1. Yn olaf, er y toriadau a'r arbedion sydd wedi'u gwneud dros y ddegawd ddiwethaf, mae dau adolygiad annibynnol wedi canfod bod Cyngor Caerdydd yn parhau i wneud gwelliannau mewn gwasanaethau allweddol a'i fod yn gydradd gyntaf yng Nghymru o ran y cynghorau sydd wedi gwella fwyaf. Pan gymharodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wrth lunio ei Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus diweddaraf, daeth Cyngor Caerdydd yn gydradd gyntaf o ran meysydd lle mae perfformiad wedi gwella. Gan y Cyngor hwn hefyd oedd y nifer leiaf o ddangosyddion lle roedd perfformiad wedi gwaethygu. Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn bodloni ei ofynion o ran gwelliant parhaus yn ôl adroddiad blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).

Mae ymgynghoriad y gyllideb yn rhedeg am chwe wythnos o ddydd Gwener 16 Tachwedd i ddydd Iau 2 Ionawr. Os hoffech ddweud eich dweud, gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor neu casglwch gopi o'r ddogfen ymgynghori o'ch hyb neu lyfrgell leol. Gallwch hefyd ddarllen mwy am gynigion y gyllideb ar gyfer 2019/20 ar wefan y Cyngor neu ymahttp://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Cyllid-y-cyngor/Cyllideb-y-Cyngor/Pages/default.aspx ar wefan Ystafell Newyddion Caerdydd.