Back
Cyngor teithio ar gyfer Cymru v Awstralia ar 10 Tachwedd


Bydd Cymru'n herio Awstralia yn ail gêm y Gyfres Under Armour yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn yma.

Bydd y gêm yn cychwyn am 5.20pm, felly bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 2.20pm a bydd ffyrdd canol y ddinas i gyd ar gau o 1.45pm i 8.15pm.

Bydd mesurau diogelwch uwch yn weithredol yn Stadiwm Principality felly dylai pawb sy'n dod i Gaerdydd i wylio'r gêm roi digon o amser i ddod i'r ddinas ac i'r stadiwm.

Cynghorir cefnogwyr i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir yn principalitystadium.cymru cyn teithio i'r ddinas.

Ceir gwybodaeth fanwl gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn y briff cyfryngau hwn.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas:

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig:  Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy'r dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio i'r digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

O 6.30pm, bydd Rhodfa'r Orsaf ar gau. Bydd modd i gerbydau adael maes parcio Canolfan Siopa Capitol drwy Stryd Ogleddol Edward/Rhodfa'r Orsaf tua'r gogledd, tuag at Heol Casnewydd/Dumphries Place.

Sylwch: 
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd ger Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Trenau

Mae Network Rail yn rhoi gwybod i gwsmeriaid nad oes gwaith peirianneg wedi'i gynllunio yng Nghymru, felly ni ddisgwylir tarfu ar y llinell rhwng Llundain a Chaerdydd.

Mae gwaith peirianneg yn cael ei wneud yng ngorllewin Lloegr, felly bydd teithwyr sy'n teithio o Loegr i Gymru drwy Gaerfaddon neu orsaf Bristol Temple Meads yn cael bws i orsaf Bristol Parkway i barhau ar eu taith i Gaerdydd.

Cynghorir teithwyr i gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw ynwww.nationalrail.co.uk  neu drwy ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwybod i gwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd. Dylai'r rheini sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r gêm ddod mor gynnar â phosibl. Bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng Ngorsaf Caerdydd Canolog a Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch i www.tfwrail.wales/events   

Ar ôl y gêm, dylai cefnogwyr sydd am deithio adref ar wasanaethau lleol Caerdydd a'r Cymoedd ddefnyddio Caerdydd Heol-y-Frenhines. Dylai cwsmeriaid y prif linellau, gan gynnwys gwasanaethau Glynebwy a Maesteg, ddefnyddio gorsaf Caerdydd Canolog.

Parcio a Theithio ar gyfer y Digwyddiad - Tŷ Wilcox oddi ar Gyfnewidfa Ferry Rd yn Dunleavy Drive (CF11 0BA)

Mae'r gwasanaeth Parcio a Theithio ar gyfer Cymru v Awstralia yn Nhŷ Wilcox yn Dunleavy Dr (Bae Caerdydd), 3.5 milltir o'r stadiwm.

Cyrraedd yno - Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 32

Cost - £10 i'w dalu ar y diwrnod yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Man gollwng - Gogledd Ffordd Tresillian, y tu cefn i'r Orsaf Drenau Ganolog.

Amseroedd agor - Maes parcio'n agor am 8.30am gyda'r bws cyntaf am 9:00am. Maes parcio'n cau am 9.30pm gyda'r bws olaf yn gadael Canol y Ddinas am 9.00pm.

Traffyrdd a chefnffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a'r ffyrdd sy'n arwain i Gaerdydd fod yn brysur iawn.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Pris: £15 i'w dalu ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwch:  Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 9.00pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Pris: £15 i'w dalu ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig).

Amseroedd parcio: Bydd staff ar y safle o 7.30am, bydd y maes parcio yn agor am 8.00am a rhaid symud yr holl geir oddi yno erbyn hanner nos gan fod ffyrdd yn cael eu cau yn y Ganolfan Ddinesig ar gyfer Sul y Cofio y diwrnod wedyn (11 Tachwedd).

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio.  Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd parcio a theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP (Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir i yrwyr anabl ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 1.45pm ac yn ailagor am 8.15pm.
 
Bysus

Bysus lleol: 
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill ar gyfer y dwyrain neu Heol y Brodyr Llwydion ar gyfer y gogledd, o 1.45pm i 9.30pm.

Mae Bws Caerdydd yn rhoi gwybod na fydd mynediad i Fitzhamon Embankment oherwydd gwaith ffordd parhaus yn Despenser Street. O ystyried hyn, ni fydd modd defnyddio'r pwynt lloeren arferol ar gyfer gwasanaethau sy'n mynd i orllewin Caerdydd, sef Stryd Tudor.

Mae Bws Caerdydd yn rhoi gwybod y bydd gwasanaethau ar gyfer y gorllewin yn gadael o Taff's Mead Embankment o 1.45pm i 9.30pm. Y gwasanaethau fydd yn terfynu yma yw: 92/94, 95, 96; 61, 8/9A, X45; 25, 63, 66; a 13, 17/18.

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.

 
National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.