Back
Cathays yn Cofio: Prosiect rhwng cenedlaethau’n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf


Mae prosiect blwyddyn o hyd sy'n pontio'r cenedlaethau i gofio'r bobl leol a wasanaethodd yn y Rhyfel Mawr yn diweddu gyda digwyddiad i gofio'r Cadoediad yn Cathays yfory.

 

Cyn canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yr wythnos hon, mae plant o ysgol gynradd ddinesig wedi bod yn gweithio gydag aelodau hŷn o'r gymuned a gwasanaeth llyfrgelloedd Caerdydd i archwilio a choffáu pobl o'u hardal a fu'n ymladd dros eu gwlad o 1914-1918.

 

Mae disgyblion oYsgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monicayn Cathays wedi cydweithio'n agos ag Eglwys y Bedyddwyr Stryd Pentyrch, y Bwrdd, a Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays i olrhain hanes unigolion y mae eu henwau wedi eu rhestru ar blac coffa yn yr eglwys.

 

Mae'r prosiect rhwng cenedlaethau -Mwy o Gariad:Ymchwil, Myfyrio, Cofio, wedi cynnwys disgyblion blwyddyn 5 yn cychwyn ar eu hymchwiliadau 'Pwy wyt ti'n meddwl wyt ti?' bach nhwgan ddefnyddio casgliad y Llyfrgell Dreftadaeth yn Cathays i gael gwybod am fywydau'r rhai sy'n ymddangos ar y plac.

 

Gyda mynediad i'r ystod eang o adnoddau, o hen gofnodion cyhoeddus i ffotograffau a mapiau, a'r arbenigedd sydd ar gael yn y Llyfrgell Treftadaeth, mae'r disgyblion wedi datgelu cyfoeth o ffeithiau gan gynnwys coed teulu, cyfeiriadau a swyddi i lunio bywgraffiadau o'r bobl y maen nhw'n eu hastudio. Mae'r disgyblion hefyd wedi cyfansoddi cerddi am y Rhyfel Mawr ac wedi defnyddio eu sgiliau celf i ddylunio medalau i'w gwobrwyo am briodoleddau gan gynnwys caredigrwydd, dewrder a chyfeillgarwch; pabïau a phosteri recriwtio.

 

C:\Users\c080012\Desktop\Cathays Remembers\Cathays\IMG_3771.JPG

 

Mae aelodau o'r clwb cinio wedi rhannu eu hatgofion o'r ardal leol yn y blynyddoedd a aeth heibio gyda'r plant a hefyd wedi trafod eu profiadau o sut brofiad oedd byw yn y ddinas yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd.

 

Daw'r prosiect i ben mewn digwyddiad cofio arbennig ddydd Mercher, 7 Tachwedd, gan ddechrau gyda gwasanaeth wrth y Bwrdd pan fydd y plant yn arddangos peth o'u gwaith.Bydd y ddwy genhedlaeth yn trafod sut maent wedi gweithio gyda'i gilydd ar y prosiect, cyn i'r trafodion symud i Santes Monica ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys crefftau, darlleniadau, gemau a thrafodaethau.

 

Yn rhan olaf y digwyddiad, bydd y plant yn cychwyn ar orymdaith pleidlais i ferched gan gario placardiau y maent wedi'u dylunio o'r ysgol i'r llyfrgell lle bydd disgyblion blwyddyn 6 yn gweithredu fel curaduron mewn arddangosfa o'u gwaith prosiect. Bydd y gweithgareddau'n parhau drwy gydol y prynhawn ac mae aelodau o'r cyhoedd yn cael gwahoddiad i'w mynychu.Bydd yr arddangosfa ar gael yn y Llyfrgell tan 17 Tachwedd.

C:\Users\c080012\Desktop\Cathays Remembers\Cathays\IMG_3775.JPG

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae hon wedi bod yn ffordd ddiddorol i ddisgyblion ysgol gynradd Santes Monica ddysgu am y Rhyfel Byd Cyntaf ac i gysylltu a chael cyfeillgarwch ag aelodau o'r gymuned heddiw sydd â chymaint o wybodaeth a phrofiad o'r gorffennol i'w rhannu.

 

"Mae'r prosiect wedi dod â hanes yn fyw i'r plant a thrwy weithio gydaLlyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathaysa defnyddio'r adnoddau gwych sydd yn ein casgliad astudiaethau lleol, maen nhw wedi gallu archwilio bywydau pobl go iawn a wnaeth ymladd dros eu gwlad 100 mlynedd yn ôl."

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Santes Monica, Abi Beacon:"Mae'r plant wedi elwa llawer o'r prosiect. Mae llawer o'r plant yn byw'n bell o'u teuluoedd eu hunain a gallai sgyrsiau rhwng cenedlaethau beidio â digwydd yn aml. Maent wedi ffurfio cyfeillgarwch gwirioneddol â'r bobl hŷn yn ein cymuned. Mae wynebau'n goleuo pan welant ei gilydd ac mae yna ymdeimlad amlwg o ddisgwyliad a chyffro pan fyddant yn gwybod y byddant yn cydweithio unwaith eto. 

 

"Mae gweithio gyda Katherine yn y Llyfrgell wedi bod yn ysbrydoledig i'r plant. Maent wedi gweld sut mae gwarchodaeth ofalus o arteffactau'n golygu y gallwn gael cliwiau am ein gorffennol. Mae'n gyffrous meddwl y byddwn yn creu arteffactau y gallai eraill eu defnyddio yn y dyfodol."

 

Dywedodd Rob Morse, Gweinidog y Bwrdd:"Mae mwy o gariad wedi caniatáu i'r plant a'r bobl hŷn archwilio cysyniad anffasiynol, sef hunanaberth.Bu dwfn fyfyrio.Rwy'n credu y bydd yr effaith barhaol yn ddyfnach fyth.Y cariad mwyaf all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau."