Back
Croeso cynnes i Gwpan Y Byd i bobl ddigartref


Mae Cyngor Caerdydd wedi croesawu'r newyddion y bydd prifddinas Cymru yn cynnal Cwpan y Bydd i Bobl Ddigartref 2019.

 

Gwnaed y cyhoeddiad am gais llwyddiannus Cymru i gynnal y twrnamaint y flwyddyn nesaf yn Stadiwm y Principality ganLlywydd a SylfaenyddCwpan Y Byd i bobl ddigartref, Mel Young cyn gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Sbaen neithiwr.

 

Gan ymateb i'r newyddion dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas fod y ddinas eisoes yn edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad, sydd â'r nod o newid canfyddiadau am bobl ddigartref wrth amlygu cyflwr digartrefedd.

 

Dywedodd y Cyng. Thomas:"Rydym yn falch iawn y bydd Caerdydd yn cynnal Cwpan y Byd i Bobl Ddigartref y flwyddyn nesaf am y tro cyntaf.Mae gennym hanes da o gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol pwysig a phrofiad gwych i ymwelwyr i bobl sy'n dod i'r ddinas ar gyfer yr achlysuron hyn.Rwy'n siŵr na fydd y twrnamaint y flwyddyn nesaf yn wahanol i'r chwaraewyr a'r gwylwyr o ledled y byd.Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i Gaerdydd ar gyfer y gemau.

 

"Ond mae cynnal Cwpan y Byd i Bobl Ddigartref ynglŷn â llawer mwy na chynnal achlysur chwaraeon llwyddiannus.Nid yw Caerdydd yn wahanol i lawer o ddinasoedd eraill yn y DU, sydd wedi gweld cynnydd sy'n fwy nag erioed o'r blaen o ran digartrefedd dros y blynyddoedd diwethaf.Felly bydd cynnal Cwpan y Byd i Bobl Ddigartref yn gyfle i ni harneisio pŵer pêl-droed i wneud i bobl feddwl yn wahanol am ddigartrefedd a bydd yn chwarae rhan yn y sgwrs ehangach am sut i gyflawni newid a all helpu i ddod â digartrefedd i ben."

 

 

Roedd y Cyngor yn bartner yng nghynnig Cymru i gynnal cystadleuaeth y flwyddyn nesaf a gafodd ei arwain gan y seren Hollywood Michael Sheen a'r elusen cynhwysiant cymdeithasol Pêl-droed Stryd Cymru, sydd â'r nod o wella bywydau a chyfleoedd i bobl sy'n cael eu hallgau yn gymdeithasol yng Nghymru drwy bêl-droed.

 

 

Dywedodd Michael Sheen:"Bu Cyngor Caerdydd yn bartner hanfodol wrth ffurfio'r bid i ddod â'r twrnamaint i Gymru.Mae'r tîm digwyddiadau yn adnabyddus am gyflawni digwyddiadau o'r radd flaenaf ac rwy'n llawn cyffro bod y tîm hwn yn gweithio gyda ni ar Gwpan y Byd i Bobl Ddigartref Caerdydd 2019.Gyda'n gilydd byddwn yn cyflawni twrnamaint pêl-droed rhagorol ac yn sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i fynd i'r afael â'r cyfleoedd eraill y bydd cynnal y twrnamaint yn dod â nhw i ni."

 

Bob blwyddyn, mae Sefydliad Cwpan y Byd i Bobl Digartref yn cyflawni twrnamaint pêl-droed stryd ysbrydoledig am wythnos sy'n dod â mwy na 500 o chwaraewyr ynghyd i gynrychioli mwy na 50 o wledydd, y maent i gyd wedi wynebu digartrefedd.Gall cymryd rhan yn y gêm ddod â strwythur i fywydau unigolion sy'n agored i niwed yn ogystal â'u helpu i adeiladu perthnasoedd ac chael ymdeimlad o berthyn.

Bydd Cwpan y Byd i Bobl Ddigartref eleni yn digwydd yn Ninas Mecsico fis nesaf, pan gaiff Cymru ei chynrychioli gan dîm dynion a menywod.Roedd Katherine Lewis, sy'n byw yn hostel Tŷ Tresilian y Cyngor yn y ddinas ymhlith y chwaraewyr ar eu ffordd i Fecsico a gyflwynwyd i'r dorf yn Stadiwm Prinipality gan Michael Sheen neithiwr.

Caiff dyddiadau a lleoliad ar gyfer Cwpan y Byd i Bobl Ddigartref eu cadarnhau yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.