Back
Rhannu Bywyd

 

Lansiwyd project celfyddydol dwy flynedd heddiw yn canolbwyntio ar fywydau pobl digartref yng Nghaerdydd, sydd â'r nod o dynnu rhai o'r rhwystrau.

 

Mae Rhannu Bywyd yn broject partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Eglwys Glenwood ac Amgueddfa Cymru sy'n ceisio codi proffil y rheiny sy'n profi digartrefedd drwy ddweud eu stori trwy gasglu portreadau a monologau.

 

Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gydag Eglwys Glenwood dros nifer o flynyddoedd ac mae canolfan gymunedol TAV yn y Rhath, sy'n cael ei redeg gan yr eglwys, yn darparu lloches dros nos a llety brys i gysgwyr stryd yn ystod y gaeaf.

 

Drwy dîm allgymorth digartrefedd y Cyngor sy'n gweithio'n ddyddiol gydag unigolion sy'n agored i niwed ar y strydoedd, mae gwirfoddolwr Eglwys Glenwood a'r arlunydd, Katherine Holmes, wedi'i chyflwyno i nifer o gysgwyr ar y stryd a phreswylwyr hostel yn Nhŷ Tresillian a Green Farm, yn treulio amser yn gwrando ar eu hanesion ac yna'n creu paentiadau ar sail y naratifau hynny.

 

Rhoddodd y sesiynau gyfle i unigolion digartref, yr oedd rhai'n anodd i'w cyrraedd gynt, i gael profiad positif wrth gael mynediad at gymorth mewn amgylchedd braf. Yn ogystal, galluogodd berthynas well rhyngddyn nhw a staff oedd yn cynnig gwasanaethau cymorth.

 

Ar ddiwedd y project, cynhelir arddangosfa fydd yn cynnwys yr ystod o waith celf, gan gynnwys portreadau Katherine, cerddi'n seiliedig ar hanesion bywydau wedi'u datblygu gan Phil Ellis o Eglwys Glenwood a monologau ar lafar wedi'u haddasu o gyfweliadau gyda'r cyfranogwyr, wedi'u perfformio gan y cwmni theatr, Going Public.Os yw'r bobl sy'n rhan o'r arddangosfa yn dal i fod ynghlwm wrth y project ar y cam hwnnw, byddant yn cael cadw eu portread.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne:"Yn ddiweddarach eleni, gwnaethom gynnal cynhadledd yn dod â sefydliadau ac unigolion ynghyd sy'n awyddus i helpu pobl digartref yng Nghaerdydd ac roedd y consensws yn nodi bod angen gwneud rhywbeth gwahanol.

 

"Yn sicr, mae'r project hwn yn rhywbeth gwahanol, yn arloesol ac yn heriol gan ei fod yn ceisio torri'r rhwystrau digartrefedd, ymgysylltu â chymunedau o'n cwmpas ac annog pobl i wrando i straeon personol y bobl agored i niwed hyn.

 

"Hyd yn hyn, mae ein tîm allgymorth wedi sylweddoli sut mae'r project wedi cael effaith bositif iawn ar y cyfranogwyr.Mae wedi rhoi hwb i'w hunan-barch, ac wedi'u helpu nhw i deimlo'n llai ynysig a rhoi gwybod i nhw bod angen i'w straeon cael eu clywed a'u gwerthfawrogi.Rydym yn gobeithio drwy'r project a thrwy gymryd y cam cyntaf o ddweud eu stori fydd o bosibl heb eu hadrodd erioed o'r blaen, bydd mwy o unigolion digartref yn dod ynghlwm wrth yr ystod eang o wasanaethau cymorth sydd gennym yn y ddinas all helpu nhw i symud i ffwrdd o fywyd ar y stryd i ddechrau adeiladu eu bywydau eto.

 

"Rwy'n falch iawn ein bod ynghlwm wrth y gwaith hwn, ac edrychwn ymlaen at weld a chlywed yr arddangosfa a'r perfformiad ar ddiwedd y project."

 

Dywedodd Paul Francis, Arweinydd Eglwys Glenwood:"Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r project hwn sy'n ceisio defnyddio'r celfyddydau creadigol i ymgysylltu â rhai o bobl mwyaf agored i niwed Caerdydd, ac i adrodd eu hanesion. Drwy ei thalent fel arlunydd, mae Katharine Holmes yn cyfleu enaid a chymeriad rhai o'r bobl y mae hi'n cwrdd â nhw.Gall y celfyddydau creadigol gyfleu rhywbeth gwahanol i eiriau.Gobeithiwn y bydd rhai o'r rhwystrau'n cael eu torri i lawr drwy'r straeon hyn."