Back
Gweinidog Amgylchedd Cymru yn nodi cwblhau project Grangetown Werddach
Nodwyd cwblhau project arobryn Grangetown Werddach heddiw gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn. 

Mae Grangetown Werddach yn broject partneriaeth £2 miliwn rhwng Cyngor Caerdydd, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, wedi’i gefnogi gan y Gronfa Cymunedau Tirlenwi.

Mae’r project yn defnyddio’r technegau draenio diweddaraf (SuDS) i ddal, glanhau ac arallgyfeirio dŵr glaw i’r Afon Taf yn lle ei gasglu a’i bwmpio wyth milltir i waith trin dŵr ym Mro Morgannwg ac wedyn ei ryddhau allan i'r môr.  Dyma’r tro cyntaf i’r technegau hyn gael eu hôl-ffitio i amgylchedd trefol ar y raddfa hon.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu:  “Mae’r modd y mae technoleg SuDS sydd wrth galon Grangetown Werddach yn dynwared draeniad naturiol a chaniatáu i ddŵr glaw gael ei ryddhau yn uniongyrchol i’r afon yn golygu y gallwn ar yr un pryd wella rheolaeth ar ddŵr glaw yn yr ardal a hefyd wireddu arbedion ynni enfawr – mae hynny ynddo’i hun yn eithaf trawiadol, ond y modd y mae’r project hefyd wedi rhoi buddion i’r gymdeithas sy’n ei wneud yn broject cwbl arbennig.”

 “Mae'r daith yma wedi bod yn un faith, ac mae angen diolch i’r preswylwyr am eu hamynedd, ond rwy’n credu y gall y rhan fwyaf o bobl weld fod Grangetown Werddach wedi trawsnewid y rhan hon o Gaerdydd a’i gwneud yn lle glanach, gwyrddach i fyw.

Mae’r cynllun wedi arwain at:

 

·         42,480m2 o ddŵr wyneb yn cael ei dynnu o’r rhwydwaith dŵr gwastraff cyfun (sydd gyfystyr â 10 cae pêl-droed).

·         Mae 1,600m2 o ofod gwyrdd (sy’n cyfateb i 4 cwrt pêl-fasged).

·         Creu ‘stryd feiciau’ gyntaf Cymru ar hyd un o rannau prysuraf llwybr Teithio Llesol Taith Taf, gan arafu traffig trwy ddylunio a gwella amodau i gerddwyr a beicwyr.

·         Cynnydd mewn bioamrywiaeth - 135 o goed newydd a miloedd o lwyni a gweiriau.

·         Creu perllan gymunedol.

·         26 o stondinau beics newydd.

·         12 bin sbwriel newydd.

·         9 sedd a mainc newydd.

·         Mwy o fannau parcio i breswylwyr yn unig.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn AC:Mae cynllun Grangetown Werddach yn dod â buddion lluosog i’r gymuned leol – o’r gerddi glaw newydd i’r blychau planhigion ar ymyl y ffordd, a fydd yn gwella bioamrywiaeth yn yr ardal, i’r ‘stryd feicio’ neilltuedig sy’n rhoi llwybr mwy diogel i feicwyr a cherddwyr a gwella ansawdd yr aer.

 “Yr hyn sy’n wych am y cynllun yw’r modd y mae wedi cynnwys Cymuned Grangetown ar bob cam, gyda chyfraniadau i’r cynigion gwreiddiol, yr holl ffordd i’r dyluniadau terfynol.”

 “Mae Grangetown Werddach yn enghraifft o’r hyn sydd yn bosib mewn system ddraenio ôl-ffitio gynaliadwy. Rwy’n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn gatalydd i eraill ar draws Cymru, o ran draenio cynaliadwy a gweithio mewn partneriaeth.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, Steve Wilson:“Rydym wrth ein bodd o fod wedi bod yn rhan o'r project cyffrous ac arloesol hwn yng nghanol y brifddinas.Rydym eisoes yn cyflenwi nifer o brojectau draenio cynaliadwy ein hunain er mwyn mynd i’r afael a llifogydd trefol felly roedd yn gwneud synnwyr perffaith i ni ymuno â Chyngor Caerdydd a Chyfoeth Naturiol Cymru ar y project hwn.

 “Bydd project Grangetown Werddach yn helpu i wella’r modd y mae ein rhwydwaith yn gweithredu yn ystod glaw trwm a fydd yn ei dro yn dod â manteision amgylcheddol amlwg am ddegawdau i ddod."

Meddai Martyn Evans, Uwch Ymgynghorydd Polisi Cyfoeth Naturiol Cymru:“Ein nod o’r dechrau’n deg oedd sicrhau y gallai Grangetown Werddach helpu i greu amgylchedd lleol iachus a dygn a fyddai’n cefnogi ffyniant economaidd a chymdeithasol am genedlaethau i ddod.Gallwn nawr weld sut mae’r cynllun yn helpu i wella bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn lleol, gwella ansawdd dŵr ar hyd yr Afon Taf ac agor cyfleoedd newydd i bobl fwynhau cerdded, beicio a gweithgareddau hamdden eraill yn agos i le maen nhw’n byw a gweithio.Mae’n enghraifft ardderchog o sut y mae sefydliadau a’r cyhoedd yn gallu gweithio ar y cyd i greu cymaint o ganlyniadau cadarnhaol, a gobeithiwn y bydd y cynllun arloesol hwn yn gallu ysbrydoli llawer mwy o brojectau cyffrous ledled Cymru."