Back
Cymru yn erbyn Sbaen yn Stadiwm y Principality


Bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Sbaen ar ddydd Iau 11 Hydref ac ar sail diogelwch y cyhoedd, bydd y ffyrdd yn cau yn rhannol yng nghanol y ddinas o 5.30pm.

Gyda'r gêm yn dechrau am 7.45 pm, bydd y gatiau'n agor am 4.45pm i sicrhau bod digon o amser i'r cefnogwyr gyrraedd y stadiwm.

Dywedir wrth bawb sydd â thocyn bydd gwiriadau diogelwch uwch, felly fe'u cynghorir i adael digon o amser i gyrraedd y stadiwm.Cynghorir cefnogwyr i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau sydd wedi'u gwahardd yn principalitystadium.wales cyn teithio i'r ddinas.

Mae'r amseroedd cau ffyrdd yn dangos am ba mor hir y gall yr awdurdodau gau'r ffyrdd dan y gyfraith trwy orchymyn cyfreithiol. Os bydd y torfeydd yn gwasgaru'n gyflymach na'r disgwyl, bydd y ffyrdd yn agor cyn gynted â phosibl ar ôl i'r gêm orffen.
 
Oherwydd cynnydd sylweddol yn nifer y tocynnau sydd wedi’u gwerthu, mae’r Awdurdodau’n rhybuddio y gallai holl ffyrdd canol y ddinas gael eu cau tan fod y digwyddiad wedi gorffen i sicrhau y gall yr holl gefnogwyr adael yn ddiogel.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas (5.30pm tan 11.30pm)

  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd cyfan (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd cyfan: Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Ar ôl y digwyddiad, gallai fod angen cau lôn neu ddal traffig yn Heol Ddwyreiniol y Bont-faen/Stryd y Castell ger gât 1.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy'r dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio i'r digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Sylwer: 
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Trenau

Er nad oes unrhyw waith peirianneg wedi'i gynllunio yn ystod y digwyddiad hwn, dylai cwsmeriaid sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf ar y dydd drwy fynd i  www.nationalrail.co.uk ; neu ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.

Mae Trenau Arriva Cymru yn cynghori cwsmeriaid y bydd gwasanaethau trên i ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd ac y bydd capasiti ychwanegol ar gael lle bynnag y bo'n bosibl.

Bydd system rheoli torfeydd ar waith yn dilyn y digwyddiad yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 9.30pm

Bydd yr holl wybodaeth am Wasanaethau Trenau Arriva yn ystod diwrnodau pan gynhelir digwyddiadau ar gael ar  www.arrivatrains.wales/events. 

Parcio a Theithio ar gyfer y Digwyddiad

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i'r safle.

Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle.

Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.

Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Mae'r gost o £10 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig)

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am hanner dydd a bydd y safle yn agor am 12.30pm, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 12.30pm. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 11.00pm a bydd y maes parcio'n cau am 11.30pm.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £15 i'w dalu ar y diwrnod yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 9.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: Mae £15 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio.  Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir i yrwyr anabl ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Bysus

Bysus lleol: 
 

Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin. 
 
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
 
National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.