Back
Diddymu tollau Pont Hafren: Ymateb gan Gyngor Caerdydd

Diddymu tollau Pont Hafren:Ymateb gan Gyngor Caerdydd

 

Mae croeso wedi ei roi gan Gyngor Caerdydd i'r newyddion y bydd y tollau ar bontydd Hafren yn cael eu diddymu ar 17 Rhagfyr eleni.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:"Mae Caerdydd heddiw yn croesawu'r cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol y bydd y tollau ar y ddwy bont yn dod i ben fis Rhagfyr.Bydd y cam hwn yn dod â buddion economaidd sylweddol i Gaerdydd, y Brifddinas-ranbarth ac i Gymru. 

 

Mae'r Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Llywodraeth er mwyn sicrhau y byddwn yn gwneud y gorau o'r manteision hyn trwy ddatblygu cysylltiadau trafnidiaeth ymhellach, gan sicrhau twf economaidd cynaliadwy i'r dyfodol ar draws de-ddwyrain Cymru.

 

"Mae codi'r tollau ar yr Hafren hefyd yn cynnig cyfle gwych i roi mwy o bwysau ar gynllunio rhwydwaith drafnidiaeth newydd i dde-ddwyrain Cymru yn y dyfodol.Drwy barhau i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn y blynyddoedd nesaf, gallwn sicrhau y bydd y penderfyniad i ddiddymu'r tollau yn dwyn manteision economaidd i'r ddinas-ranbarth gyfan, fydd yn ei dro o fudd i Gymru gyfan."