Back
Bywyd newydd ar gyfer Ynys Echni wrth i arian CDL gael ei gyhoeddi


Mae prosiect sy'n ceisio ail-ymgysylltu Caerdydd ag Ynys Echni wedi sicrhau arian grant Cam 1 gwerth £1.3m tuag at ddatblygiad arfaethedig yr Ynys.

 

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu £152,200 o gyllid cam datblygu i Ynys Echni; Taith Gerdded Trwy Amser - prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, RSPB Cymru a Chymdeithas Echni sy'n ceisio rhoi anadl einioes newydd i'r ynys ym Môr Hafren er mwyn cadw ei threftadaeth, diogelu ei bywyd gwyllt cyfoethog a denu mwy o ymwelwyr yno.

 

Mae Ynys Echni wedi'i drwytho mewn hanes a'r ymwelydd cynharaf yr ynys a wyddys oedd Sant Cadoc yn y 6ed ganrif. Yn ystod y 18eg ganrif, roedd lleoliad yr Ynys yn ei gwneud yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer smyglo. Mae'n debyg ei fod yn fwyaf enwog am fod yn safle trosglwyddiad signal di-wifr cyntaf Marconi dros y môr agored ym Mai 1897.

 

Mae'r prosiect yn cynnwys gwaith adnewyddu helaeth ar yr Orsaf Gorn Niwl Gradd II, sefydlogi adeiladau'r ysbyty colera a'r golchdy rhestredig Gradd II, yn ogystal ag atgyweiriadau i'r crynhoad dŵr Fictoraidd ar yr Ynys.  Bwriedir datblygu'r amgylchedd er mwyn gwella cynefinoedd ar gyfer Gwylanod Cefnddu Bychain a phlanhigion morwrol a bydd deunydd dehongli ar y safle hefyd i fynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes yr ynys.

 

Yn ogystal â'r gwaith ar yr Ynys, mae'r prosiect hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer menter i ymgysylltu'n helaeth â'r cyhoedd ar y tir mawr er mwyn hyrwyddo Ynys Echni sy'n cynnwys digwyddiadau, arddangosfa ffotograffig awyr agored, cysylltiadau ag atyniadau lleol a cherflun ar raddfa fawr ar Morglawdd Bae Caerdydd a fydd yn ceisio dod â synau a straeon yr Ynys dros amser i drigolion ac ymwelwyr Caerdydd.

 

Bydd y prosiect hefyd yn cynnig cyfleoedd i fwy o ysgolion, cymunedau a thwristiaid ymgysylltu neu ymweld â'r ynys gyda mwy o ymgysylltu â gwirfoddolwyr a fydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i brofi byw a gweithio ar yr Ynys anhygoel hon.

 

Y dyfarniad £152,200 yw'r cyntaf o ddau gyfnod cynlluniedig o ariannu i ddatblygu a chyflawni'r prosiect £1.3m, gyda'r potensial o gyfanswm o tua £800,000 o gyllid CDL os yn llwyddiannus yn rownd dau.

 

Ar y cyd â'r prosiect bydd adfer y lanfa, adeiladwaith hanfodol ar gyfer gwasanaethu a dod ag ymwelwyr i'r ynys, diolch i grant o £385,000 o'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi. Mae'r gronfa yn hanfodol i adnewyddu'r trefniadau mynediad yn dilyn dirywiad a difrod gan y tywydd a chyflwr y llanw dros flynyddoedd lawer a bydd yn cefnogi prosiect arfaethedig y CDL.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: "Mae hyn yn newyddion gwych i'r Cyngor ac i'n partneriaid yn y gwaith o warchod a datblygu Ynys Echni.

 

"Mae Ynys Echni yn atyniad unigryw ac yn un o drysorau cudd ein dinas felly rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i ennill cyllid y cyfnod datblygu a fydd yn ein galluogi i gymryd y cam cyntaf i roi bywyd newydd i'r Ynys er mwyn denu pobl leol a ymwelwyr â phrifddinas Cymru.

 

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac wrth gwrs, i bawb sy'n chwarae'r loteri, am y cyllid hwn a fydd yn ein helpu i adnewyddu adeiladau allweddol yr Ynys a gwella'r cynefinoedd naturiol i fywyd gwyllt ar yr Ynys tra'n rhoi cyfle i bobl ddod o hyd i fwy am hanes diddorol y lle."

 

 

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri:  "Mae ein treftadaeth naturiol yn adnodd gwerthfawr a, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi helpu i amddiffyn yr ystod arbennig o dirweddau, cynefinoedd, a rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid.  Mae'n bleser gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gefnogi Ynys Echni:  Bydd y project Taith trwy Amser yn ysgogi diddordeb pobl yn y byd naturiol ac yn eu helpu i'w gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

 

 

Dywedodd Katie-Jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru: "Rydym wrth ein bodd bod y bartneriaeth wedi sicrhau'r grant datblygu hwn. Mae Ynys Echni yn cynnig cyfle unigryw i brofi bywyd gwyllt a threftadaeth yr ynys ar garreg drws ein prifddinas, sydd wedi'i gosod o fewn Moryd yr Hafren sy'n bwysig yn rhyngwladol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid yn ystod y cyfnod datblygu."

 

Dywedodd Bridget Box, Ysgrifennydd Cymdeithas Ynys Echni: "Mae hwn yn newyddion ardderchog! Hoffem ddiolch i bawb a weithiodd mor galed i sicrhau'r cyllid hanfodol hwn. Mae dyfodol agos yr ynys gyda'i hanes a chynefinoedd unigryw yn ddiogel ac mae Cymdeithas Ynys Echni yn edrych ymlaen at gydweithio â'n partneriaid yn y Cyngor a RSPB i barhau â'r gwaith cadwraeth a chynnal a chadw pwysig, yn ogystal â gwneud yr ynys yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf.