Back
Gorchymyn i landlordiaid dalu dros £17,000 am gyfres o fethiannau yn eu heiddo rhent

Plediodd Lawford Cunningham, o Wheeleys Road, Birmingham a'i ŵyr Morgan Cunningham-Blackwood o Stanmore Road, Birmingham ill dau'n euog yn Llys yr Ynadon Caerdydd ddoe.

Roedd y ddwy ble euog yn ymwneud â chyfres o droseddau o ran eiddo yr oedden nhw'n ei rentu yn Clive Street yn Grangetown.

Daethai'r achos i'r amlwg pan wnaeth tenant gŵyn am gyflwr 107 Clive Street. Cynhaliwyd ymweliad gan swyddogion gorfodi tai ar 14 Chwefror eleni a barnwyd bod cynllun yr eiddo a addaswyd mor wael fod yn rhaid cyflwyno Gorchmynion Gwahardd.

Addaswyd eiddo teras Fictoraidd yn bedair fflat hunangynhwysol a dwy fflat un ystafell, pob un â'i chegin ei hun ond gydag ystafell ymolchi a rennid.

Dangosodd yr asesiad nad oedd gan yr eiddo system larwm tân briodol; nid oedd digon o socedi trydanol ymhob fflat; roedd y ceginau'n rhy fach ac fe'u barnwyd yn anniogel, gwresogyddion dŵr wedi'u torri, teils rhydd yn yr ystafell ymolchi a rennir; to'n gollwng ac ni allai'r landlordiaid gyflwyno tystysgrifau nwy, trydanol neu larwm tân yn dangos iddynt gael eu harolygu a'u gwasanaethu'n gywir.

Roedd y swyddogion mor bryderus am yr amodau a ganfuwyd, cafodd pedair fflat Orchymyn Gwahardd. Ers hynny diddymwyd tri o'r Gorchmynion Gwahardd, gan fod y llety byw wedi'i ddwyn i'r safon ofynnol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: "Os yw unrhyw breswylydd mewn tŷ rhent preifat yn pryderu ynghylch yr eiddo mae'n byw ynddo, gofynnwn iddo gysylltu â'r cyngor fel bod modd cynnal asesiad.

"Mae mwyafrif y landlordiaid sector preifat yn rhoi gwasanaeth da i'w trigolion a chwarae rôl werthfawr yn stoc dai Caerdydd.

"Mae nifer fechan y landlordiaid yn meddwl y gallant ddarparu tai safon annigonol, sy'n rhoi eu tenantiaid mewn perygl.

"Mewn nifer o achosion, gallwn weithio gyda'r landlord i ddatrys y broblem, ond os canfyddir eiddo mewn cyflwr megis, ni oes opsiwn arall ond am erlyn drwy'r llysoedd."

Cafodd y ddau landlord ddirwy o £8,500 yr un, gorchymyn i dalu £200 yr un mewn costau a thâl dioddefwr o £100 yr un.

Ymwnâi'r troseddau â thorri Deddf Tai 2004. Yn bennaf Adran 72, Gweithredu Tŷ Amlfeddiannaeth Trwyddedadwy heb Drwydded ac Adran 234, Methiant i gydymffurfio â Rheoliad Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007.