Back
Cynhelir trafodaeth am ddiogelu ein parciau yng nghyfarfod nesaf y Cabinet


Bydd sut i ddiogelu parciau a mannau gwyrdd Caerdydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn wyneb pwysau ariannol a chyllidebau tynn yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf Cabinet y Cyngor wrth iddo ystyried argymhellion a gynigiwyd yn adroddiad‘Ariannu Parciau' Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant.

 

Amlinellodd adroddiad y Pwyllgor Craffu gyfres o argymhellion, gan gynnwys:

-         Cael mwy o incwm drwy fasnacheiddio, digwyddiadau, nawdd a modelau ariannu amgen.

-         Dechrau trafodaethau gyda defnyddwyr y caeau chwarae ynghylch rhoi'r cyfrifoldeb iddynt dros gynnal a chadw tiroedd mewn model megis Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

-         Ystyried cynnig safleoedd llai ar gyfer digwyddiadau ledled y ddinas.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae'r adroddiad hwn yn cynnig syniadau da iawn ac rwy'n ddiolchgar iawn i aelodau'r pwyllgor craffu am eu gwaith caled.

"Rydyn ni i gyd yn gwerthfawrogi ysblennydd naturiol parciau a mannau gwyrdd Caerdydd, ac mae'r awdurdod hwn wedi bod yn gweithio'n galed yn wyneb toriadau i'r gyllideb i ddiogelu ac ariannu'r asedau cyhoeddus pwysig hyn. Yn wir, mae 12 parc Baner Werdd yn y ddinas erbyn hyn, mwy nag unrhyw adeg arall.

 

"Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl o gwbl heb waith ymroddgar staff y parciau, ceidwaid y parciau a'n grwpiau cyfeillion hynod werthfawr. Serch hynny, wrth i'r gyllideb barhau i dynhau, mae hi hyd yn oed yn fwy debygol y bydd angen i ni alw ar ein dinasyddion i'n helpu i gynnal a chadw'r ardaloedd hyfryd hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gall rhywbeth mor syml â pheidio â gadael eich sbwriel yn y parc, neu roi unrhyw sbwriel rydych yn dod ar ei draws mewn bin cyfagos helpu ein parciau i aros yn wyrdd a hyfryd.

"Mae adroddiad y Pwyllgor Craffu wedi cynnig rhai argymhellion dilys y byddwn yn eu hystyried. Wrth gwrs, yn y blynyddoedd diweddar rydym wedi cyflwyno nifer o brojectau newydd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y ffordd rydym yn cynnal ein parciau, gan greu incwm i'r Cyngor drwy gynnal digwyddiadau ym Mharc Bute a gwerthu planhigion ym mhlanigfa'r Cyngor.

"Gan ddefnyddio'r wybodaeth a'r profiad rydym wedi'u casglu drwy'r projectau hyn, rhaid i ni edrych tua'r dyfodol i ddatblygu opsiynau a chyfleoedd pellach fel y gall ein parciau a'n mannau gwyrdd arbennig barhau i ffynnu yn ystod cyfnod o galedwch ariannol."

Mae Adroddiad y Pwyllgor Craffu yn cynnig 13 argymhelliad.Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno ar ddeg ohonynt ac wedi cytuno'n rhannol ar ddau arall.