Back
Ffair Swyddi Caerdydd


Bydd dros 1,000 o swyddi ar gael yn ffair Swyddi Caerdydd yr wythnos hon.

 

Mae Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith y Cyngor wedi cyfuno gyda'r Ganolfan Byd Gwaith i drefnu digwyddiad yn Neuadd Dewi Sant Ddydd Mercher 12 Medi (10am - 2pm).

 

Bydd help ar gael i bobl sy'n awyddus i newid swyddi neu ddychwelyd i fyd gwaith.

Bydd dros 40 o gyflogwyr mawr o'r sectorau manwerthu, lletygarwch, gofal a gwasanaethau a mwy, yn y digwyddiad er mwyn rhoi gwybodaeth a chyngor ar y cyfleoedd a'r swyddi sydd ar gael yn y ddinas.

Bydd Tîm Caerdydd ar Waith hefyd yn y Ffair swyddi yn cynnig gwaith clerigol gweinyddol a dros dro o fewn Cyngor Caerdydd ar draws ystod o wasanaethau.

Bydd Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith y Cyngor yn cynnig cefnogaeth a chyngor cyflogaeth yn y digwyddiad i fynychwyr gan gynnwys help i fynd ar-lein, clinig CV a sesiynau blasu am yr hyfforddiant sydd ar gael trwy'r gwasanaeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng Lynda Thorne:"Mae'n wych cael gweithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith unwaith eto er mwyn cynnig Ffair Swyddi Caerdydd arall.Rydym o hyd yn gweld cannoedd o bobl yn dod drwy'r drysau i'r digwyddiadau hyn er mwyn dod o hyd i'r cyfleoedd swyddi sydd ar gael yn y ddinas.

"Y Ffair Swyddi yw dim ond un o'r nifer o ffyrdd y mae ein gwasanaethau Cynghori i Mewn i Waith ledled y ddinas yn gallu cynorthwyo pobl i mewn i fyd gwaith neu i'w helpu nhw i ennill cymwysterau a hyfforddiant i gael gwell swydd felly rwy'n annog unrhyw un sy'n awyddus i wella ei ragolygon cyflogaeth neu sydd angen cyngor i alw heibio'r digwyddiad yr wythnos nesaf."

I ganfod mwy am wasanaethau Cynghori i Mewn i Waith Cyngor Caerdydd, ewch ihttps://www.intoworkcardiff.co.uk/cy/